Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Chwefror 2024
Mae gofalwyr di-dâl yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad am ddim y mis nesaf sydd wedi ei drefnu i’w helpu nhw i arbed arian ar eu biliau ynni.
Mae dau ddigwyddiad wedi eu trefnu gan Wasanaeth Gofalwyr Cyngor Torfaen, gyda’r cyntaf yn digwydd ddydd Mercher, 7 Chwefror yn Eglwys Fethodistaidd Llanyrafon, Cwmbrân, o 11am tan 2pm. Bydd y llall yn digwydd ar 23 Chwefror yn Eglwys y Santes Fair, Y Dafarn Newydd, o 11am tan 2pm.
Bydd amrywiaeth o gefnogaeth ymarferol ac ariannol ar gael, gan gynnwys cyngor ynglŷn ag ymdopi gyda gofalu am un annwyl:
- Cyngor ar arbed ynni a nwyddau fel bylbiau LED a rhimynnau drafftiau
- Cyngor ar fudd-daliadau gan arbenigwyr sy’n gallu helpu gofalwyr i hawlio’r hyn mae ganddyn nhw hawl iddo a chael grantiau a gostyngiadau.
- Gwybodaeth iechyd a lles i ofalwyr a’u hanwyliaid, fel cyngor ar ymdopi â straen, rheoli meddyginiaethau, a chael mynd at wasanaethau a grwpiau lleol.
Gall gofalwyr hefyd ddysgu mwy am y cynllun seibiant newydd, Pontio’r Bwlch Gwent, sy’n cynnig seibiant hyblyg a phersonol i ofalwyr a chefnogaeth i’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Cabinet Torfaen ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Thai: "Rydym yn cydnabod cyfraniad amhrisiadwy gofalwyr di-dâl i’n cymuned, ac rydym am eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn. Mae’r digwyddiad yma’n gyfle gwych i ofalwyr gael cyngor, gwybodaeth a chymorth ynglŷn â sut i ymdopi â heriau gofalu a chostau byw. Rydym yn gobeithio y bydd nifer o ofalwyr di-dâl yn ymuno â ni ac yn elwa o’r digwyddiad yma"
Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu mewn partneriaeth a’r Adran Sgiliau Byw’n Annibynnol ym Mharth Dysgu Torfaen, a fydd yn cynnig lluniaeth am ddim ar y diwrnod.
I gefnogi’r digwyddiad, cafodd dros 100 o rimynnau drafftiau eu gwneud â llaw gan ddisgyblion o’r Adran Sgiliau Byw’n Annibynnol ym Mharth Dysgu Torfaen Coleg Gwent, yn ogystal ag aelodau o Glwb Crefftau Cymunedol y Dafarn Newydd, Canolfan Gymunedol Cwmbrân, Grŵp Crefftau Cwmafon a Chwiltwyr Henllys.
Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog sydd â chyflwr iechyd tymor hir, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth ac sydd ddim yn gallu ymdopi heb eu cymorth.
Does dim angen cadw lle, dewch ar y diwrnod i gael cefnogaeth.
Am fwy o wybodaeth am Wasanaethau Cymorth i Ofalwyr a gynigir gan Gyngor Torfaen, ffoniwch 01495 762200 neu ewch at y
wefan.