Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Ebrill 2024
Mae cannoedd o redwyr wrthi'n paratoi ar gyfer ras 10k Mic Morris Torfaen.
Mae’r ras yn adnabyddus fel un o’r cyflymaf yn y calendr rasio gyda rhedwyr yn dod o bell i gystadlu.
Dywedodd trefnydd y digwyddiad a Swyddog Datblygiad Chwaraeon Torfaen, Ben Jeffries, “P’un ai ydych chi’n rhedwr profiadol neu’n ddechreuwr, peidiwch â cholli allan ar y digwyddiad anhygoel yma!
“Gwisgwch eich ‘sgidiau, ymunwch â ni a byddwch yn rhan o un o’r rasys 10k cyflymaf ar y blaned.
“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra o ganlyniad i gau’r heolydd dros dro. Serch hynny, rydym yn gobeithio y bydd y rhybudd o flaen llaw yn galluogi trigolion i ganfod ffyrdd amgen a gwneud trefniadau amgen yn ystod y cyfnod byr yma tra bod rhedwyr yn rhedeg y ffordd o Flaenafon i Barc Pont-y-pŵl.
“Bydd gwybodaeth yn cael ei phostio i drigolion sy’n byw ar yr heolydd sy’n cael eu heffeithio, a byddwn yn ymdrechu i ailagor pob darn o’r ffordd cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwerthfawrogi dealltwriaeth y cyhoedd a’u cydweithrediad yn ystod y digwyddiad blynyddol yma.”
Mae’r ras i lawr allt, ar ddydd Sul 14 Gorffennaf, yn dechrau am 9am ym Mlaenafon, gyda disgwyl i’r rhedwyr i gyd orffen ym Mharc Pont-y-pŵl erbyn 11am.
Bydd pob un sy’n cymryd rhan yn derbyn medel a dewis o nwyddau amrywiol am gymryd rhan yn y digwyddiad.
Bydd yr holl arian o’r ras yn mynd i Gronfa Ymddiriedolaeth Goffa Mic Morris, sy’n cefnogi mabolgampwyr ifanc yn Nhorfaen.
Cau ffyrdd
Er mwyn sicrhau diogelwch rhedwyr, bydd yr heolydd canlynol ar gau rhwng 8:00am a 11:30am:
- A4043 Cwmavon Road (o gyffordd Prince Street a New William Street ym Mlaenafon hyd at Old Road yn Abersychan)
- Old Road
- Limekiln Road
- Freeholdland Road
- George Street
- Mill Road
- Hospital Road
- Darn gogleddol Osbourne Road (hyd at y gyffordd â Riverside)
- Riverside
- Park Road yn arwain at Penygarn Road
Bydd ffyrdd cefn ar agor, ond ni fydd caniatâd i gerbydau ar ffordd y ras yn ystod y digwyddiad. Bydd mynediad i’r gwasanaethau brys ar bob adeg.
Cynllunio
Os yw cau’r ffyrdd yn effeithio ar eich cyfrifoldebau o ran teithio neu roi gofal, cysylltwch os gwelwch yn dda â Datblygiad Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 cyn gynted â phosibl.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad neu am fwy o wybodaeth, ewch
Mic Morris Torfaen 10K neu cysylltwch â:
ben.jeffries@torfaen.gov.uk | 01633 628936