Hwyl y Pasg gyda Chwarae Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Ebrill 2024
Torfaen Play easter fun

Fe fuodd dros 1,000 o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwych a difyr dros wyliau’r Pasg, diolch i Wasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen.

Cynhaliwyd cyfres o wersylloedd chwarae a llesiant mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref ac roedden nhw’n cynnig cyfuniad cyffrous o weithgareddau ar thema’r Pasg ynghyd â chwaraeon, gêmau tîm a sesiynau â ffocws ar lesiant.

Ac nid dyna’r diwedd ar yr hwyl. Roedd Stadiwm Cwmbrân yn gartref i’r gwersyll chwarae a gweithgareddau byrlymus, a chynigiwyd safleoedd mynediad agored ychwanegol yn Neuadd Mount Pleasant, Eglwys Victory ac Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Darparwyd Sesiynau Seibiant dyddiol hefyd i 95 plentyn ac unigolyn ifanc arall ag anghenion cymorth ychwanegol.

Meddai Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: “Mae gan ein Gwasanaeth Chwarae enw da am y ffordd neilltuol y mae’n darparu gwasanaethau chwarae a seibiant ar hyd a lled y Fwrdeistref. Mae ymrwymiad ein gwirfoddolwyr yn creu argraff arna’ i bob tro wrth iddyn nhw greu amgylchedd diogel a difyr er mwyn i’n plant ddysgu, tyfu a chael hwyl.

“Ar ben hynny, mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig rhyddhad mawr i deuluoedd dros gyfnod y gwyliau, ac yn tawelu meddwl rhieni fod eu plant mewn amgylchedd diogel sy’n darparu profiadau sy’n eu cyfoethogi."

Galw am Wirfoddolwyr ar gyfer Hwyl yr Haf!

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen nawr yn chwilio am unigolion dros 16 oed i wirfoddoli ac i ennill profiad yng ngwersylloedd yr haf a’r cynlluniau chwarae mynediad agored eleni.

Fe fydd gwirfoddolwyr yn elwa ar wythnos o hyfforddiant sy’n dechrau ddydd Llun, 22 Gorffennaf ac fe fydd y clybiau’n rhedeg o ddydd Llun, 29 Gorffennaf hyd ddydd Iau, 22 Awst.

Rhaid derbyn ceisiadau gan wirfoddolwyr erbyn diwedd mis Ebrill.

I ymgeisio, llenwch y ffurflen ar-lein ar wefan Cyngor Torfaen neu anfonwch neges e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/04/2024 Nôl i’r Brig