Gwobr ysgolion iach

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Medi 2023
New Inn Primary NQA Award

Ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl yw’r ysgol ddiweddaraf i ennill Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach.

Ysgol Gynradd New Inn yw’r bedwaredd ysgol yn Nhorfaen i ennill y wobr, ochr yn ochr ag Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Gynradd Nant Celyn ac Ysgol Gynradd Llanyrafon, yng Nghwmbrân.

Yr wythnos hon, aeth staff a disgyblion, gan gynnwys aelodau o grŵp Cenhadon Chwaraeon yr ysgol, i Ganolfan Ddinesig Cyngor Torfaen i dderbyn y wobr gerbron Cynghorwyr.

Meddai’r Pennaeth, Kate Prendergast: “Mae pob un yn Ysgol Gynradd New Inn mor falch o ennill y wobr hon ac mae’n cydnabod gwaith caled staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol.

“Roedden ni wedi llwyddo i ddangos amrywiaeth eang o weithgareddau a mentrau arloesol ac unigryw sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion a’u teuluoedd ac sy’n gymorth i hyrwyddo dyfodol hapus ac iach.

"Mae iechyd a llesiant yn rhan hollbwysig o’n bywydau yn Ysgol Gynradd New Inn a gobeithiaf y bydd ein gwaith yn ysbrydoli eraill i ddarparu gweithgareddau newydd a chyffrous ar gyfer cymunedau eu hysgolion nhw.”

Cafodd Ysgol Gynradd New Inn gydnabyddiaeth gan Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru am ei rhaglen Cenhadon Chwaraeon, gwersi ffitrwydd a maeth, grwpiau sy’n cynrychioli disgyblion ac ardaloedd llesiant.

Roedd hefyd yn cydnabod cyraeddiadau blaenorol yr ysgol, gan gynnwys ei Gwobr Eco Blatinwm a Gwobr Arian Ymwybodol o Hawliau UNICEF.

Meddai Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Torfaen, Andrew Powles: “Dylai Ysgol Gynradd New Inn fod yn hynod o falch o ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach. 

“Rhoddir y wobr hon i ysgolion sy’n gallu dangos buddsoddiad parhaus yn iechyd a llesiant pob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, yn rhieni a gofalwyr, yn aelodau o staff ac yn llywodraethwyr.  Dyma gyrhaeddiad neilltuol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae Ysgol Gynradd New Inn wedi llwyddo i ddangos ei bod yn bodloni’r holl feini prawf ar gyfer y Wobr Ansawdd Genedlaethol, iechyd a llesiant meddyliol ac emosiynol plant a staff, datblygiad personol a chydberthnasau, diogelwch, hylendid, bwyd a ffitrwydd, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, a’r amgylchedd.

“Mae’r wobr hon yn cydnabod cydnerthedd yr ysgol gyfan, ei dyfalbarhad a’i hangerdd dros ddarparu llesiant neilltuol ac addysg gyflawn ar gyfer yr holl ddisgyblion.”

Diwygiwyd Diwethaf: 22/09/2023 Nôl i’r Brig