Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Medi 2023
Mae Tîm Glanhau Ysgolion Torfaen wedi cael ei goroni’n enillydd gwobr genedlaethol mewn seremoni arbennig yr wythnos hon.
Fe gafodd y tîm gydnabyddiaeth am ei ymrwymiad neilltuol i wneud gwahaniaeth o fewn y sefydliad a hefyd yn y gymuned leol - yn enwedig ymrwymiad y tîm i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Ysbrydolwyd y tîm gan y gynhadledd newid hinsawdd ryngwladol yn Glasgow yn 2021, a phenderfynon nhw ymchwilio i gynnyrch glanhau sy’n ecogyfeillgar.
Aethant at entrepreneuriaid amgylcheddol lleol a chydweithio â chyflenwyr i ddod o hyd i opsiynau cynaliadwy a oedd yn fwy eco-gyfeillgar. Treialwyd y cynnyrch yn llwyddiannus mewn ysgolion cynradd lleol gyda’r nod o estyn hyn allan ymhellach ar draws safleoedd ysgolion.
Roedd enwebiad y tîm yng ngwobrau APSE ddoe hefyd yn gydnabyddiaeth o’i rôl yn helpu cydweithwyr, fel Nemat, ffoadur o Swdan, a oresgynnodd rwystrau sylweddol i ymuno â’r tîm.
Roedd ymrwymiad y tîm, a’i waith gyda saith asiantaeth wahanol, yn dyst i’r ymrwymiad i gynhwysiant ac integreiddio cymunedol. Chwalwyd rhwystrau ac yn ganlyniad cafwyd cyflogaeth ystyrlon lwyddiannus.
Yn olaf, mae’r tîm wedi cael cydnabyddiaeth am fod yn drugarog ac yn ymroddgar. Daethpwyd o hyd i gydweithiwr a oedd wedi cael anaf gartref ac fe wnaeth y tîm fwy na’r disgwyl. Aethant ati i sicrhau ei bod yn cyrraedd yr ysbyty ac yn cael gofal ar ôl dychwelyd adref.
Meddai Jayne Sullivan, Rheolwr Glanhau: “Ar ran y tîm glanhau cyfan, rydyn ni mor falch o dderbyn y wobr uchel ei bri hon.
“Yn aml mae glanhau yn adran sydd ddim yn cael llawer o sylw ac sydd â phroffil isel, ac mae ennill y wobr hon wedi rhoi hwb i’n hyder ni.
“Bydd cydnabyddiaeth o’r fath yn rhoi hwb i bob un, a hefyd yn eu hatgoffa eu bod yn gwneud gwaith arbennig o dda. Nawr maen nhw wedi cael beirniadaeth swyddogol sydd o’r farn mai nhw yw’r gorau yn y DU”.
Wrth siarad am y Gwobrau, meddai Mo Baines, Prif Weithredwr APSE, "Ar draws llywodraeth leol mae gennym fyddin o arwyr di-glod sy’n gwneud cymaint mwy na’r disgwyl ar gyfer eu cymunedau lleol.
“Diben y dathliadau neithiwr oedd cydnabod y gorau mewn gwasanaethau cyhoeddus a rhannu’r arfer gorau hwnnw gyda phob un.
“Enwebwyd dros 300 ar gyfer y gwobrau eleni, ac roedd pob un yn dangos ymrwymiad clir i’r nod o wella’n barhaus a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.
“Ar ran pob un yn APSE, hoffwn longyfarch pob un o’n cystadleuwyr gwych a gyrhaeddodd y rownd derfynol - rydych chi’n gredyd i’r cymunedau yr ydych yn eu gwasanaethu."
Darllenwch am y modd y gall disgyblion Ysgolion Cynradd Torfaen gael prydau ysgol am ddim nawr diolch i’r gwaith ailwampio ceginau yn ddiweddar.