Adnewyddu ceginau ar gyfer tymor newydd.

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Medi 2023
school canteens upgrade - notinmissout

Mae cyfleusterau arlwyo mewn ysgolion cynradd wedi cael eu gwella dros yr haf, diolch i fuddsoddiad o £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gyflwyno cynllun Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb.

Trawsnewidiwyd ceginau mewn deg ysgol, gyda llawer yn derbyn poptai mwy o faint, mannau gweini newydd, peirannau golchi llestri, oergelloedd a rhewgelloedd.

Roedd cwblhau’r gwaith yn golygu bod disgyblion ysgol gynradd i gyd yn gallu derbyn cinio ysgol am ddim o ddechrau’r flwyddyn academaidd – blwyddyn cyn targed Llywodraeth Cymru.

Mae bwydlenni wedi eu newid i gynnwys dewis llysieuol pob dydd ac mae dietegydd yn cynnig bwydlenni arbennig i dros 200 o ddisgyblion sydd â gofynion dietegol arbennig. 

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: “Mae timau arlwyo ac eiddo ysgolion Torfaen, ochr yn ochr â’r contractwyr lleol, A.J.Quinns, GKR a Mint Services, wedi gweithio’n ddiflino dros yr haf i sicrhau ein bod ni’n cadw at y targed.

“O ganlyniad i’r gwaith, gall nifer fawr o brydiau gael eu paratoi’n gyflym er mwyn cyflwyno’r cynllun Prydiau Ysgol am Ddim i Bawb. Mae’n wych clywed bod dros 40 o bobl wedi cael eu cyflogi mewn swyddi ychwanegol yn y gwasanaeth arlwyo yn yr ysgolion.

“Mae’r gwelliant parhaus yn y bwydlenni hefyd yn ystyried llais disgyblion ac mae ein timau arlwyo’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect gyda Nesta a thair ysgol â chynllun arbrofol i gynyddu’r niferoedd sy’n cael cinio ysgol”.

Mae’r gwaith yn cyd-fynd â Chynllun Sirol Cyngor Torfaen sy’n cyflwyno’r ffyrdd y bydd y cyngor yn cynorthwyo taclo anghydraddoldeb, yn codi cyrhaeddiad addysgol ac yn hyrwyddo bywyd iachach mewn ysgolion.

Mae’n rhan hefyd o Gynllun Cynaliadwyedd a Lleihau Carbon Arlwyo Torfaen.

Am wybodaeth bellach am Brydiau Ysgol am Ddim, ewch i wefan Cyngor Torfaen, neu cysylltwch â CateringEnquiries@torfaen.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am fwydlenni a phrydiau ysgol, ewch i wefan Cyngor Torfaen https://www.torfaen.gov.uk/cy/EducationLearning/SchoolsColleges/Schoolcatering/School-Menus.aspx

Diwygiwyd Diwethaf: 14/09/2023 Nôl i’r Brig