Chwilio am wirfoddolwyr i helpu ysgolion i ffynnu

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 5 Medi 2023
school governors photo

Mae yna chwilio am wirfoddolwyr i helpu ysgolion Torfaen i ffynnu trwy fod yn llywodraethwyr ysgolion.

Mae cyrff llywodraethol ysgolion yn cynnwys nifer o swyddi llywodraethwyr, gan gynnwys llywodraethwyr o blith athrawon, staff, rhieni, y gymuned a’r awdurdod lleol.

Maen nhw i gyd yn allweddol i helpu ysgolion i sefydlu gweledigaeth glir, cyfeiriad strategol ac i oruchwylio perfformiad ariannol.

Llynedd, rhoddodd yr arolygwyr ysgolion, Estyn, glod i gorff llywodraethol Ysgol Gynradd Pontnewydd, yng Nghwmbrân, am chwarae rhan bwysig mewn bywyd ysgol.

Dywedodd y Pennaeth, Kerry Waters: "Rwy’n falch iawn o gael pwysleisio rôl hanfodol llywodraethwyr.  Trwy iddynt gymryd rhan yn weithgar, mae ein cymuned dysgu’n cael ei chyfoethogi trwy safbwyntiau amrywiol, ac ymroddiad i ddiwallu gofynion unigryw pob plentyn.

“Mae dod yn llywodraethwr yn brofiad gwerth chweil, ble byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sefydlu gweledigaeth, cenhadaeth ac amcanion yr ysgol, ac maen nhw’n gweithio’n agos ag arweinwyr yr ysgol i ddatblygu cynlluniau tymor hir i gyrraedd y nodau yma.”

Ychwanegodd cadeirydd y llywodraethwyr, Allan Taite: "Fel llywodraethwr cymunedol, mae fy nghefndir mewn adnoddau dynol wedi caniatáu i mi ddod â phrofiad gwerthfawr i’r pwyllgor, gan gydweithio’n agos â’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau arferion staffio effeithiol.

“Mae llywodraethwyr yn cymryd rhan nawr mewn ffurfio penderfyniadau a llunio cynllun datblygu’r ysgol, chwarae rhan allweddol wrth ddiffinio strategaeth yr ysgol a monitro’i chynnydd yn ofalus. Mae’n destun llawenydd mawr i mi fy mod yn rhan o sefydlu gwerthoedd yr ysgol ar y cyd â’r plant a’r staff.”

Mae swyddi llywodraethwyr o blith staff, rhieni a’r gymuned yn cael eu penodi gan ysgolion, mae llywodraethwyr yr awdurdod lleol yn cael eu recriwtio a’u penodi gan gynghorau ac maen nhw’n gallu cynnig persbectif annibynnol.

Disgwylir i lywodraethwyr ysgol fynd i dri chyfarfod y flwyddyn, un pob tymor, ac mae cyfnod llywodraethwr yn ei swydd yn parhau am bedair blynedd.

Mae’r rôl yn cynnig cyfle am ddatblygiad personol a sgiliau a phrofiad mewn rheolaeth prosiectau, gosod cyllideb a gweithio fel rhan o dîm arweinyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Addysg: "Mae llywodraethwyr yn arwyr ein gwasanaeth addysg.  Maen nhw’n rhoi o’u hamser, eu profiad a’u mewnwelediad i gefnogi ysgolion i wneud y gorau gallan nhw ar ran eu disgyblion a chymunedau ehangach.

"Mae llywodraethwyr awdurdod lleol yn dod â phersbectif gwahanol, annibynnol i gyrff llywodraethol sy’n gallu cyfoethogi’r mewnwelediad sydd gan lywodraethwyr o blith rheini, y gymuned ac athrawon."

Mae yna amrywiaeth o swyddi gwag llywodraethwyr ar gael mewn ysgolion yn Torfaen.  Gallwch wneud cais i fod yn un trwy ymweld â gwefan Cyngor Torfaen.

Dysgwch fwy am lywodraethwyr ysgolion a’r gefnogaeth sydd ar gael yma

Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2023 Nôl i’r Brig