Apêl Siôn Corn yn agor yn fuan

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Hydref 2023
Santa Appeal Tile CYM2

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Torfaen yn paratoi i chwarae rôl Siôn Corn unwaith eto, wrth i gynlluniau ar gyfer Apêl Siôn Corn eleni fynd rhagddynt.

Mae’r apêl sy’n agored o 6 Tachwedd tan 4 Rhagfyr 2023, yn sicrhau y bydd pob plentyn ac oedolyn ifanc sy’n cael cefnogaeth gan y gwasanaeth, yn derbyn anrheg y Nadolig hwn.   

Ers iddi gael ei lansio yn 2007, mae’r apêl wedi cefnogi miloedd o blant a phobl ifanc ledled Torfaen – y mae nifer ohonynt yn byw mewn tlodi neu nad oes ganddynt gyswllt â’u teuluoedd.

Gall trigolion gyfrannu anrhegion drwy gysylltu â’r gwasanaeth. Byddant yn cael gwybod oedran a rhyw y plentyn ochr yn ochr â chod unigryw y gellir ei rhoi ar yr anrheg. Rhaid i chi beidio â lapio’r anrheg.

Gellir hefyd cyfrannu eitemau o fwyd nad ydynt yn darfod, fel y gellir creu basgedi bwyd ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn sydd yn byw ar eu pennau eu hunain.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Plant, Teuluoedd ac Addysg, Cyngor Torfaen: “Cawsom ein syfrdanu gan haelioni’r gymuned a busnesau sydd wedi cefnogi ein hapêl. Mae eich caredigrwydd wedi galluogi i blant a phobl ifanc yn Nhorfaen gael blas ar lawenydd yr ŵyl.

“Diolchwn o waelod calon i chi am eich cefnogaeth barhaus a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni unwaith eto i sicrhau bod yr ŵyl yn un arbennig iawn i blant a phobl ifanc mewn angen.”

Bydd rhagor o fanylion am fannau gollwng rhoddion a sut y gallwch gymryd rhan eleni, yn cael eu rhannu o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2023 Nôl i’r Brig