Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Hydref 2023
Bydd aelodau’r llyfrgell yn cael cyfle i gael benthyg person yn lle llyfr, fel rhan o ddigwyddiad cyntaf Llyfrgell Pobl y mis yma.
Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gael sgwrs 20 munud gydag amrywiaeth eang o “lyfrau dynol” i drafod eu profiadau o faterion fel digartrefedd, byw gyda phoen gronig a hiliaeth.
Bwriad y digwyddiad yw rhoi lle ar gyfer sgyrsiau ystyrlon, herio stereoteipiau a meithrin dealltwriaeth o unigolion o gefndiroedd gwahanol.
Un o’r rheiny sy’n cymryd rhan yw Dori Thomas, a fydd yn rhannu ei thaith o adferiad a thwf ar ôl profedigaeth.
" Rwy'n falch o gymryd rhan yn "Llyfr Agored" yn nigwyddiad Llyfrgell y Bobl Llyfrgell Cwmbrân, a gobeithiaf y bydd yn cynnig cyfleoedd i gynnal sgyrsiau am bynciau y mae pobl yn aml yn eu hosgoi."
Gyda mwy i'w cadarnhau, dyma rai o'r 'llyfrau dynol' a gadarnhaodd y byddant yn rhannu eu hanesion ar y diwrnod:
- Jules – Hedfan Heb Adenydd, gwella yn dilyn canser ac anaf sy’n newid bywyd.
- Rafi – Siwrnai o Baghdad i Blaina, trafod bywyd Rafi fel ffoadur a sut y daeth i fyw yng Nghymru.
- Sharon – Bywyd ar ôl dibyniaeth
- Hazel – Dysmorphia’r Corff
Mae’r cynllun arloesol am ddim a bydd yn digwydd yn Llyfrgell Cwmbrân ddydd Sadwrn, 28 Hydref, o 9:30am tan 12:30pm.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraeth Gorfforaethol a Pherfformiad:
“Mae’r digwyddiad yma’n ymgorffori hanfod natur ein llyfrgelloedd fel lle i ddysgu, tosturi a dealltwriaeth.
“Rydym ni’n credu mewn grym storïau personol i ddileu rhwystrau, herio rhagfarn a chreu cymuned fwy cynhwysfawr. Mae’r digwyddiad ‘Llyfrgell Pobl’ yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu profiadau cyfoethog sy’n mynd y tu hwnt i’r benthyca llyfrau traddodiadol.”
I wybod mwy neu i neilltuo sgwrs, cysylltwch â Llyfrgell Cwmbrân os gwelwch yn dda ar 01633 647676.