Ailenwi Gwasanaeth Cymorth

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 4 Hydref 2023
d/Deaf service

Mae aelodau’r gymuned fyddar wedi dylanwadu ar benderfyniad i ailenwi gwasanaeth cymorth addysg lleol.

Yn genedlaethol, mae Cymdeithas Brydeinig Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar, a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar, yn cefnogi’r symudiad tuag at y defnydd o derminoleg fwy cadarnhaol o gylch byddardod.

Mae’r gair ‘byddar’ yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfeirio at bob lefel o fyddardod gan gynnwys byddardod unochrog.  Cafodd y penderfyniad yma ei wneud ar ôl cydweithio gyda rheini b/Byddar a rhai sy’n clywed, plant a phobl ifanc byddar a phobl broffesiynol yng Ngweithgor Gwasanaethau Clyw Plant.

Bydd y Gwasanaeth Nam ar y Clyw nawr yn cael ei alw'r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar.

Ni fydd enwau clinigau yn ne ddwyrain Cymru bellach yn defnyddio’r term ‘nam ar y clyw’ a bydd canolfannau adnodd arbenigol yn Ysgol Gynradd Nant Celyn ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn cael eu cyfeirio atynt fel Canolfannau Adnodd b/Byddar.

Dywedodd Joanne Plant, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar, a weithiodd gyda nifer o randdeiliaid ar newid enw’r gwasanaeth: “Tra bod rhai plant b/Byddar efallai ddim yn defnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu, mae’n bwysig bod hawliau’r plentyn yn cael eu hystyried. Mae angen cyfle i gael neu ddatblygu hunaniaeth fyddar, boed hynny fel rhan o leiafrif ieithyddol a diwylliannol neu drwy ddefnyddio iaith lafar.

“Mae lles plant b/Byddar yn hanfodol yn rôl y Gwasanaeth.  I rai plant byddar gall defnyddio iaith fel ‘nam’ gael effaith niweidiol ar eu hunaniaeth, eu hyder a’u synnwyr o berthyn.”

Mae nifer yn teimlo bod y term ‘nam ar y clyw’ yn diystyru pwysigrwydd a gwerth y gymuned Fyddar sydd ar y cyfan yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae gan y Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl b/Byddar tua 1116 o blant a phobl ifanc yn y gwasanaeth ar hyn o bryd, ac mae’n rhan o’r Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom).

Mae’r timau arbenigol o fewn SenCom yn cynnig cyngor a strategaethau ymyrraeth amrywiol i gefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol cyfathrebu a synhwyraidd.  Mae’n cael ei gynnal gan Gyngor Torfaen ac yn cael ei gyflenwi’n rhanbarthol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Roger Thurlbeck, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu:

“Mae’r gwaith yma i adlewyrchu dymuniadau ein cymunedau’n dangos hanfod SenCom, sef dymuniad i weithio mewn partneriaeth gyda phlant, teuluoedd, ysgolion a’n cyfeillion yn y trydydd sector.”

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2023 Nôl i’r Brig