Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Tachwedd 2023
Rydym wedi derbyn adroddiadau bod trigolion ledled Cymru wedi cael eu targedu gan alwadau twyllodrus sy'n honni eu bod o'r cyngor neu wasanaeth Lifeline.
Mae'r rhai sy’n galw yn gofyn i ddefnyddwyr Lifeline rhoi eu manylion banc, dros y ffôn, i dalu am uwchraddio’u hoffer yn ddigidol.
Byddwch yn ymwybodol mai twyll yw hwn a pheidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol i’r rhai sy’n galw.
Ni fydd Tîm Technoleg Gynorthwyol Cyngor Torfaen byth yn gofyn am daliad i uwchraddio’r offer – mae’r tâl gwasanaeth blynyddol yn talu am hyn.
Os byddwch yn derbyn galwad amheus, gorffennwch yr alwad ar unwaith a rhoi gwybod i’r heddlu ar 101 neu Action Fraud ar 0300 123 2040. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Technoleg Gynorthwyol, os oes gennych unrhyw bryderon am alwadau twyllodrus posib, ar 01495 762200.
Rhannwch y neges hon gyda'ch ffrindiau a'ch teulu sy'n defnyddio gwasanaeth Lifeline a'n helpu i atal y fath dwyll.
Diolch i chi am eich cydweithrediad a chadwch yn ddiogel.