Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023
Mae ysgol gynradd yn Nhorfaen wedi ennill gwobr am eu gwaith rhagorol gyda theuluoedd a’r gymuned leol.
Derbyniodd Ysgol Gynradd Coed Efa a Heol Blenheim wobr ‘Calon y Gymuned’ oddi wrth y Sefydliad Ymgysylltiad Cymunedol, elusen sy’n cefnogi ysgolion i adeiladu partneriaethau effeithiol gyda rhieni a gofalwyr.
Cyflwynwyd y plac gwydr i athrawon a disgyblion mewn cyfarfod arbennig ddydd Gwener gan Sue Davis, cyfarwyddwr yr elusen.
Rhoddodd Sue ganmoliaeth i’r ysgol am arloesi a chreadigrwydd wrth ymgysylltu a theuluoedd a rhoi cyfleoedd dysgu gwerthfawr iddyn nhw.
Ymysg cynlluniau clodwiw'r ysgol mae cynnal dosbarthiadau addysg oedolion ar rianta a rheolaeth ariannol, cyflenwi hyd at 100 o barseli bwyd ar gyfer y Nadolig i deuluoedd ar draws y ddwy ysgol yn y ffederasiwn a chefnogaeth 1:1 i deuluoedd unigol trwy weithio gydag asiantaethau allanol a rhwydweithiau cefnogaeth.
Roedd yr ysgol eisoes wedi sicrhau gwobrau cymunedol efydd, arian ac aur, ac fe dderbynion nhw wobr Calon y Gymuned Heart of the Community am gynnal safonau a grymuso’u cymunedau’n gyson.
Dywedodd y Pennaeth yn Ysgol Gynradd Coed Efa a Heol Blenheim, Paul Keane: “Mae pob teulu a phob person yn ein hysgolion yn rhoi plant yn gyntaf a’n cymuned yn gyntaf. Mae’n dod gyda llawer o ymroddiad, angerdd, a phroffesiynoldeb, ond, yn fwy na dim, uchelgais a dyheadau sydd gennym ar gyfer y rhan yma o Gymru. Dyna’r hyn sy’n ein hysgogi pob dydd yr ydym yn dod i’r ysgol. Mae’n fraint i ni fod mewn partneriaeth yn fwy eang gyda’r cyngor a’n haelodau etholedig oherwydd rydym ni am wneud y gwahaniaeth gwirioneddol yma i’n cymuned a bywydau ein plant.”
“Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr yma sy’n cydnabod ein hymrwymiad i weithio’n agos gyda’n teuluoedd a’r gymuned. Rydym yn credu bod ymgysylltiad rhieni a gofalwyr yn allweddol ar gyfer gwella deilliannau dysgu plant a chreu diwylliant ysgol cadarnhaol a chefnogol.
“Rydym yn ddiolchgar i’r Sefydliad Ymgysylltiad Cymunedol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) am eu harweiniad a’u cefnogaeth wrth ddatblygu ein Rhaglen Dysgu i Deuluoedd a chynlluniau eraill.”
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg yng Nghyngor Torfaen: “Rwy’n llongyfarch Ysgol Gynradd Coed Efa a Heol Blenheim am ennill gwobr Calon y Gymuned.
Mae’r ysgol wedi dangos arweiniad gwych a gweledigaeth wrth greu diwylliant o gydweithio a chyd-gefnogaeth, sy’n fuddiol nid yn unig i’r plant ond i’r gymuned ehangach hefyd. Rwy’n canmol y pennaeth, y staff, y disgyblion a’r rheini a gofalwyr am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n parhau i ysbrydoli eraill â’u llwyddiannau.”