Wedi ei bostio ar Dydd Llun 27 Tachwedd 2023
Mae siop yng nghanol tref Pont-y-pŵl wedi cael ei gorchymyn i gau am dri mis.
Yn dilyn honiadau a gafwyd am 'Siop Pont-y-pŵl' sydd wedi ei lleoli yn 6 Commercial Street, Pont-y-pŵl, aeth swyddogion o dîm Safonau Masnach y Cyngor ati i arfer ei bwerau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i wneud cais am orchymyn i’w chau.
Derbyniwyd honiadau bod y safle yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon.
Derbyniwyd gwybodaeth hefyd yn honni bod y safle'n gwerthu fêps anghyfreithlon i blant oed ysgol.
Ddydd Llun 20 Tachwedd 2023, cynhaliwyd gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd. Ar ôl clywed tystiolaeth gan swyddogion y Cyngor, cyflwynodd y Llys orchymyn i atal ymddygiad troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Gwaherddir mynediad i'r safle bob amser tra bod y gorchymyn cau ar waith, ac eithrio drwy drefniant ymlaen llaw a chytundeb ysgrifenedig penodol gan y Cyngor.
Mae mynd yn groes i orchymyn cau yn drosedd sy’n denu cosb o garchar am gyfnod o dri mis neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae gorchymyn cau yn bŵer cyflym a hyblyg y gall timau Safonau Masnach ei ddefnyddio i gau safleoedd sy'n cael eu defnyddio, neu'n debygol o gael eu defnyddio, i beri niwsans neu anhrefn.
"Canfuwyd bod tybaco anghyfreithlon a fêps yn cynnwys amrywiaeth o gemegau niweidiol a allai fod yn niweidiol i iechyd unigolyn, felly’n eu gwneud yn beryglus iawn..
"Bydd y Cyngor yn cymryd camau priodol i ddiogelu'r cyhoedd pan ddaw honiadau i law."
Mae amddiffyn plant, yn ogystal â'r gymuned ehangach, rhag sylweddau a chynhyrchion niweidiol yn cefnogi Cynllun Sirol y Cyngor drwy hyrwyddo iechyd plant, pobl ifanc a theuluoedd, fel y gallant ffynnu. Darllenwch mwy yn y Cynllun Sirol.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco anghyfreithlon neu fêps gysylltu â thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623 neu e-bostio trading.standards@torfaen.gov.uk
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am safonau masnach yma