Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Tachwedd 2023
Mae grŵp o ofalwyr ifanc wedi cyfarfod â Lynne Neagle, Aelod Senedd lleol i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.
Cyfarfu'r plant a'r bobl ifanc â Ms Neagle yn Neuadd Mount Pleasant, yng Nghwmbrân, fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau gofalwyr a’u gallu i gael cymorth.
Mae rhai o’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o du’r cyhoedd o ran eu rolau fel gofalwyr a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar eu lles.
Mater arall i ofalwyr sy'n mynychu'r coleg yw'r perygl na fyddant yn derbyn eu taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) os ydynt yn methu darlithoedd oherwydd eu dyletswyddau gofalu.
Yn ystod y cyfarfod gyda Ms Neagle a Stephen Vickers, Prif Weithredwr Cyngor Torfaen, amlinellodd y gofalwyr ifanc y gwelliannau yr hoffent eu gweld, ac maent yn gobeithio y byddant yn cael eu codi a'u trafod yn y Senedd.
Fis nesaf, byddant hefyd yn cael ymweld â'r Senedd ar gyfer taith o amgylch yr adeilad ac i drafod eu pryderon a'u dyheadau gyda mwy o wleidyddion.
Dywedodd un o'r gofalwyr ifanc, Meredith Lloyd-Tolman, sy'n 16 oed ac yn gofalu am ei brodyr a chwiorydd gydag ASA, “Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi gwahodd aelod o'r Senedd ac aelod gweithredol o’r cyngor i'n cyfarfod, gan fod ganddynt ddylanwad a all ein helpu i sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed”.
Dywedodd Izzy Pritchard, sy'n 16 oed, sy'n gofalu am ei mam a'i thad-cu: “Fel gofalwyr ifanc, mae gennym hawl i leisio ein barn i'r rhai sydd mewn awdurdod yn y gobaith y gallant ein helpu i greu newid cadarnhaol."
Cefnogwyd y gofalwyr ifanc gan gynrychiolwyr o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Torfaen, a drefnodd hefyd i grŵp o ofalwyr ifanc ddylunio a chreu crysau-T i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr.
Fel arfer mae gofalwyr ifanc rhwng 6 a 17 oed ac yn darparu gofal di-dâl i aelod o'r teulu neu ffrind sy'n sâl, yn anabl, sydd â chyflwr iechyd meddwl neu broblem camddefnyddio sylweddau.
Yn aml maent yn gorfod cydbwyso’u cyfrifoldebau gofalu gyda bywyd ysgol, gwaith a bywyd cymdeithasol, a gall hyn gael effaith negyddol ar eu hiechyd, eu haddysg a’u lles.
Mae gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen a Gwasanaeth Chwarae Torfaen i roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i ofalwyr ifanc yn yr ardal, yn ogystal â gweithgareddau, digwyddiadau a grwpiau, teithiau, gweithdai, cwnsela a seibiannau.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gyda’r gwasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth ynghylch gofalwyr ifanc a'u hanghenion.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae clywed yr heriau y mae nifer o ofalwyr ifanc yn eu hwynebu, a’r effaith y maent yn eu cael ar eu lles, yn ddigon i’ch syfrdanu.
"Pleser o’r mwyaf i mi oedd ymuno â’n gofalwyr ifanc wrth iddynt gyfarfod â Lynne Neagle AS a Stephen Vickers, Prif Weithredwr Torfaen, i drafod eu profiadau a’r hyn y maen ei olygu i fod yn ofalwr ifanc.
" Mae'n gwbl hanfodol bod lleisiau gofalwyr ifanc yn cael eu clywed gan y bobl sydd a’r modd i wneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau, felly roedd y cyfle hwn i gwrdd â llywodraeth Cymru ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, i’w groesawu’n fawr."
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc, ewch i wefan Cyngor Torfaen.