Swydd newydd yn ddechrau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 20 Tachwedd 2023
Jamie

Mae mecanig wedi ymuno â thîm fflyd Cyngor Torfaen, diolch i gyfarfod siawns yng Ngharchar Prescoed. 

Roedd y swydd wag wedi cael ei hysbysebu trwy wefan y Cyngor, ond nid oedd unrhyw un wedi ymgeisio amdani.

Yn ystod ymweliad â Charchar Prescoed ger Brynbuga i drafod cyfleoedd posibl am swyddi, daeth Mark Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Economi a’r Amgylchedd, ar draws mecanig cymwys, Jamie Smith. 

Roedd Jamie yn dod at ddiwedd dedfryd am droseddau yn ymwneud â chyffuriau, a chytunodd i gymryd y swydd fel lleoliad gwaith. Ond ers hynny mae wedi cael cynnig y swydd yn barhaol.

Meddai Jamie, sy’n 28 oed ac o Abertawe: "Roeddwn i ar fin dechrau swydd arall gydag archfarchnad ond rydw i wedi cael fy hyfforddi i fod yn fecanig, ac felly fe neidiais i at y cyfle. 

"Rydw i wir wedi mwynhau gweithio yma ac yn edrych ymlaen at wella fy sgiliau ac ennill mwy o gymwysterau."

Meddai Mark: “Mae Jamie wedi bod yn ychwanegiad gwych i’n tîm ac mae wedi profi ei fod yn ymroddgar ac yn llawn ysgogiad.

“Dyma swydd nad oeddem wedi llwyddo i’w llenwi trwy ein llwybrau arferol ac mae meithrin cysylltiad gyda Charchar Prescoed wedi rhoi’r cyfle i ni i ddod o hyd i ymgeisydd rhagorol – ac wedi rhoi’r cyfle i Jamie i brofi ei hun.”

Mae Jamie wedi cael cefnogaeth Rheolwr Cynnal a Chadw’r Fflyd, Scott Griffiths a’r Uwch-swyddog Trafnidiaeth Jill Parrish, ac roedd y ddau wedi helpu i drefnu’r lleoliad ac wedi bod yn fentoriaid iddo.

Meddai Scott: "Mae Jamie’n  gweithio’n galed iawn ac wedi ffitio i mewn yn arbennig o dda i’r tîm. Mae’n dal y trên o Abertawe bob dydd ac mae’n gallu cymryd dwy awr iddo i gyrraedd adref, ond mae’n llawn brwdfrydedd drwy’r amser ac yn awyddus iawn i ddysgu.

"Mae gan Jamie'r cymwysterau i weithio ar gerbydau nwyddau ysgafn ac rydyn ni’n bwriadu ei dywys drwy’r cymwysterau y mae eu hangen arno er mwyn iddo allu gweithio ar gerbydau nwyddau trwm."

Ychwanegodd Angela Rogers, Rheolwr Adnoddau Dynol: “Rydyn ni’n chwilio am ffyrdd gwahanol o gynnig llwybrau i mewn i gyflogaeth gyda’r Cyngor ar bob adeg.

"Fe fuon ni’n cyfarfod â chynrychiolwyr o Garchar Prescoed cyn y pandemig, ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu dod o hyd i gyfle addas i’r unigolyn iawn.”   

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am gyfleoedd am swyddi gyda Chyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/11/2023 Nôl i’r Brig