Diwrnod Hawliau Gofalwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Tachwedd 2023
Young carers

Bydd gofalwyr di-dâl yn Nhorfaen yn ymuno â miloedd o ofalwyr ar draws y DU i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr yr wythnos nesaf, ymgyrch flynyddol a drefnir gan Carers UK.

Nod Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar ddydd Iau 23 Tachwedd yw helpu gofalwyr di-dâl i ddeall eu hawliau a chanfod pa gymorth a chefnogaeth mae ganddynt hawl iddynt.

Thema eleni yw ‘Gofalu am eich dyfodol’, sy’n annog gofalwyr i feddwl am eu lles eu hunain a chynllunio ar gyfer eu gofynion am ofal yn y dyfodol.

I nodi’r achlysur, mae Cyngor Torfaen wedi trefnu dau ddigwyddiad ar y diwrnod er mwyn gwobrwyo gofalwyr di-dâl am eu gwaith hanfodol wrth ofalu ac i rannu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Mae Gofalwyr Ifanc Torfaen wedi gwahodd Aelod Llafur Cymru o’r Senedd, Lynne Neagle AS i ddigwyddiad yn Neuadd Brynhyfryd, Pontnewydd, i ddwyn ei sylw at y problemau sy’n eu hwynebu wrth iddyn nhw ofalu am aelodau o’r teulu.

Mae’n rhoi cyfle i’r gofalwyr ifanc rannu eu profiadau a gofyn i wleidyddion eiriol am eu hawliau a’u hanghenion.

Wrth nesáu at y diwrnod, mae gofalwyr ifanc hefyd wedi ymwneud a phrosiect yn dylunio crysau-t a darnau fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sôn ymhellach am eu hawliau fel gofalwyr.

Byddan nhw’n cael cyfle hefyd i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn Ashley House a Neuadd Brynhyfryd ar y diwrnod, gan gynnwys celf a chrefft, gemau, codi arian a chastell sboncio.

Mae Cyngor Torfaen hefyd yn trefnu digwyddiad i ofalwyr sy’n oedolion yng Nghlwb Gweithwyr Blaenafon, a fydd yn cynnwys perfformiad gan gôr Bois y Bryn, ffilm a lluniaeth.

Bydd y drysau’n agor am 2:30pm a gall y rheiny sy’n bresennol gymryd rhan mewn trafodaeth ynglŷn â chefnogaeth a gofyn am gyngor am fudd-daliadau, iechyd a lles, seibiant a chyfleoedd hyfforddi.

Mae’r ddau ddigwyddiad am ddim ac yn agored i ofalwyr i gyd yn Nhorfaen, ond mae’n hanfodol bwcio lle. I gadw lle, ffoniwch 01495 xxxxx 

Dywedodd y Cynghorydd  David Daniels, yr Aelod Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr.  Mae gan ofalwyr di-dâl rôl hanfodol mewn cymdeithas, ac rydym am gydnabod a dathlu eu cyfraniad, yn ogystal â sicrhau eu bod yn gallu cael y gefnogaeth a’r gwasanaethau y maen eu hangen arnyn nhw.

“Rydym yn annog gofalwyr yn Nhorfaen i ddod i’r digwyddiadau yma a chysylltu â gofalwyr a sefydliadau eraill sy’n gallu eu helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, gan gynnwys asesiad cychwynnol ewch at dudalennau ‘Gofalu am rywun’ ar wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/11/2023 Nôl i’r Brig