Lansio Apêl Siôn Corn

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 6 Tachwedd 2023

Heddiw, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Torfaen wedi lansio ei Apêl Siôn Corn blynyddol.

Yn rhedeg o 6 Tachwedd i 4 Rhagfyr 2023, mae'r apêl yn sicrhau y bydd pob plentyn ac oedolyn ifanc a gefnogir gan y gwasanaeth yn derbyn rhodd y Nadolig hwn.

Bydd trigolion sy’n dymuno cyfrannu yn derbyn oedran a rhyw'r plentyn, yn ogystal â chod unigryw y gellir ei atodi i’r anrheg. Rhaid peidio â lapio’r anrheg.

Gellir hefyd cyfrannu eitemau bwyd nad ydynt yn ddarfodus, i greu hamperi ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn, sy'n byw ar eu pennau’u hunain.

Sut i gyfrannu

Ffoniwch 01633 648100 i blant 0- 15 oed.

Ffoniwch 01633 647539 i bobl ifanc 16 – 21 oed.

Bydd llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 4pm.

Gall anrhegion gael eu gadael yn y mannau dynodedig canlynol:

TYPSS The Studio, Ystâd Fusnes Oldbury, Cwmbrân NP44 3JU

  • Dydd Mawrth: 9:00am – 5:00pm

Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Gwent Square, NP44 1XQ

  • Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9:00am – 5:30pm
  • Dydd Iau: 8:45am – 7:00pm
  • Dydd Gwener: 8:45am – 6:00pm
  • Dydd Sadwrn: 8:45am – 1:00pm

Swyddfeydd Rheoli Canolfan Cwmbrân, Y Dderbynfa, Llawr 1, South Walk (Rhwng Timpson’s a Clogau)

  • Dydd Mawrth 1.30pm – 4.00pm

Y Ganolfan Ddinesig, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN

  • Dydd Mawrth: 10:00am – 2:30pm

Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Garndiffaith, NP4 7LH

  • Dydd Iau: 11:00am - 3:00pm

Circulate Blaenavon, Pont-y-pŵl, NP4 9RL

  • Dydd Mawrth: 10:00am - 2:00pm

Co-star, Neuadd Gymunedol Y Pishyn Tair, Cwmbrân, NP44 4SX

  • Dydd Llun: 10:00am – 2:00pm

Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl, NP4 6JW

  • Dydd Llun: 8:00am – 2:00pm
  • Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener: 8:00am – 5:00pm
  • Dydd Sadwrn: 8:00am – 4:00pm

Ers iddi gael ei lansio yn 2007, mae’r apêl wedi cefnogi miloedd o blant a phobl ifanc ledled Torfaen – y mae nifer ohonynt yn byw mewn tlodi neu nad oes ganddynt gyswllt â’u teuluoedd.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Plant, Teuluoedd ac Addysg, Cyngor Torfaen: “Cawsom ein syfrdanu gan haelioni’r gymuned a busnesau sydd wedi cefnogi ein hapêl. Mae eich caredigrwydd wedi galluogi i blant a phobl ifanc yn Nhorfaen gael blas ar lawenydd yr ŵyl.

“Diolchwn o waelod calon i chi am eich cefnogaeth barhaus a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni unwaith eto i sicrhau bod yr ŵyl yn un arbennig iawn i blant a phobl ifanc mewn angen.”

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2023 Nôl i’r Brig