Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Mai 2023
Yn ystod Wythnos Gofalwyr, bydd Cyngor Torfaen yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddiolch i ofalwyr – yn oedolion ac yn ifanc – am ei gwaith.
O 5 Mehefin i 11 Mehefin, mae Wythnos Gofalwyr yn ddathliad cenedlaethol o gyfraniadau amhrisiadwy gofalwyr di-dâl.
Fel rhan o’r dathliadau, bydd y cyngor yn cynnal noson o werthfawrogiad i ofalwr di-dâl a’u hanwyliaid ar ddydd Mercher, 7 Mehefin, 6:30pm yn Nhŷ Panteg ym Mhont-y-pŵl.
Bydd bwyd ac adloniant gan fand Bois-Y-Bryn – band Sianti Cymreig o Gwmbrân,
Hefyd, gall gofalwyr ifanc ar draws y fwrdeistref edrych ymlaen at wythnos lawn o fowlio, bingo, laser tag a disgo.
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Torfaen yn cefnogi gofalwyr di-dâl dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sy’n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth sylweddau.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai:
“Gyda dros 10,000 o ofalwyr maeth yma yn Nhorfaen, sydd rhyw 11.4% o’r boblogaeth, mae’r cyngor yn cydnabod y rôl allweddol sydd ganddyn nhw wrth gefnogi eu hanwyliaid.
“Mae Wythnos Gofalwyr yn llwyfan pwysig i gydnabod a chefnogi gofalwyr o bob oedran. Mae’n rhoi cyfle unigryw i ni godi ymwybyddiaeth o’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu ac i ddangos gwerthfawrogiad am eu hymroddiad anhunanol.
“Mae’r cyngor am wneud yr wythnos yma’n ddathliad anhygoel, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau, cefnogaeth a gwerthfawrogiad o bob gofalwr yn y gymuned.”
Bydd manylion digwyddiadau Wythnos Gofalwyr ar wefan Cysylltu Torfaen.
I gymryd rhan yn y digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd wedi eu trefnu yn ystod Wythnos Gofalwyr, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r swyddog Gofalwyr Oedolion, Louise Hook ar 07966 301108 neu drwy louise.hook@torfaen.gov.uk neu’r Swyddog Gofalwyr Ifanc, Rebecca Elver ar 01633648113.