Anrhydeddu Gofalwyr Maeth am Drawsnewid Bywydau Plant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Mai 2023
fostering parkway

Mae dros 170 o ofalwyr maeth ar draws Torfaen wedi cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol wrth drawsnewid bywydau plant yn eu gofal.

Daw hyn yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch cenedlaethol dan arweiniad y Rhwydwaith Faethu gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth am faethu a phobl ifanc ac amlygu effaith ryfeddol teuluoedd maeth ar fywydau plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.

Daeth y dathliadau i ben mewn seremoni wobrwyo a chinio yng Ngwesty Parkway, Cwmbrân, i ryw 80 o ofalwyr maeth, wedi ei threfnu gan dîm Maethu Cymru Cyngor Torfaen..

Yn eu plith roedd Alison a Patrick, o Gwmbrân, sydd wedi maethu 70 o blant dros y 12 mlynedd diwethaf ac a gafodd wobr gwasanaeth hir.

Dywedodd Alison, "Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth yr ydym wedi derbyn gan y Tîm Lleoli Teuluol a Gwasanaethau Cymdeithasol Torfaen.  Roedd yn braf cael cydnabyddiaeth am yr amser a’r ymdrech yr ydym wedi eu rhoi i gefnogi plant pan fo angen arnyn nhw."

Dywedodd Kath, o Gwmbrân, a dderbyniodd wobr gwasanaeth hir a gwobr cydnabyddiaeth arbennig, "Cefais fy synnu wrth dderbyn y wobr gydnabyddiaeth arbennig ond rwy’n ddiolchgar iawn.  Mae’n gwneud i chi deimlo’n dda bod pobl yn gwerthfawrogi’r hyn yr ydym yn gwneud pan fyddwn yn gwahodd person ifanc i’n cartrefi."

Rhoddwyd torchau o flodau i’r rheiny nad oeddynt yn gallu dod i’r cinio, a derbyniodd gofalwyr maeth y tu allan i’r ardal leol gydnabyddiaeth ar ffurf talebau.

Fel rhan o’r dathlu, cafod Gofalwyr Maeth wahoddiad hefyd i gymryd rhan mewn ‘Taith Gerdded Maethu’ ym Mharc Pont-y-pŵl, dan arweiniad Cydlynydd Cerdded Torfaen, Lynne Mattravers.

Rhannodd Sam, gofalwraig maeth newydd ei chymeradwyo o Bont-y-pŵl, ei phrofiad trwy ddweud: "Mae cwrdd â gofalwyr maeth eraill a theimlo’n rhan o’r gymuned faethu wedi bod yn gyfle hyfryd.  Roedd yn wych cael ailgysylltu, cael amser da a theimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi.  Mae’r dathliad yma wedi gwneud i mi deimlo fel rhan o deulu mawr, ac yn cynhesu’r galon."

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth cymeradwy gyda Chyngor Torfaen, ffoniwch 01495 766669 neu ewch i  Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 26/05/2023 Nôl i’r Brig