Angen help i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr?

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Mai 2023

Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Torfaen wedi lansio gwasanaeth newydd i helpu unrhyw un sydd angen gwneud cais ar-lein am dystysgrif awdurdod pleidleisiwr.

O’r mis hwn ymlaen, bydd angen i bleidleiswyr ddangos dogfennaeth adnabod â llun i bleidleisio mewn rhai etholiadau – sef etholiadau yn y dyfodol ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, etholiadau Senedd y DU, Is-etholiadau i Senedd y DU a deisebau ad-alw.

Bydd angen i drigolion sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio ac sydd heb ddogfennaeth dderbyniol wneud cais am dystysgrif Adnabod Pleidleisiwr i’w dangos mewn gorsafoedd pleidleisio.

Ni fydd angen dogfennaeth adnabod ar gyfer etholiadau Senedd Cymru neu awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd staff o Lyfrgelloedd Torfaen a’r gwasanaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion wrth law pob wythnos yn y llyfrgelloedd i gynnig cefnogaeth TG i drigolion sydd angen gwneud cais. 

Llyfrgell Cwmbrân yn wythnosol:

Dydd Llun 11.30am - 1.30pm – galw heibio

Dydd Mawrth 2.00pm - 4.00pm – apwyntiad yn unig, ffoniwch 01633 647676

Dydd Iau 2.00pm - 4.00pm - apwyntiad yn unig

Llyfrgell Pont-y-pŵl  

Wythnosol:  Dydd Gwener 2.00pm - 4.00pm - apwyntiad yn unig, ffoniwch 01495 766160

Galw heibio pob pythefnos:  Dydd Iau 10.00am-12pm

Llyfrgell Blaenafon  

Wythnosol:  Dydd Mercher 2.00pm-4.00pm - apwyntiad yn unig, ffoniwch 01495 742803

Galw heibio pob pythefnos:  Dydd Iau 10.00am-12pm

Mae yna restr hirfaith o ffurfiau derbyniol o ddogfennaeth adnabod sy’n cynnwys pasbort, trwydded gyrru lawn neu dros dro a Bathodyn Glas, i enwi ond rhai.

I wybod pa fath o ddogfennaeth adnabod sy’n cael eu derbyn – neu i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ewch i www.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 25/05/2023 Nôl i’r Brig