Plant Maeth gynt yn dweud diolch

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Mai 2023
Care experienced foster wales

Mae pobl ifanc a dreuliodd amser mewn gofal maeth gydag awdurdod lleol wedi diolch i’w gofalwyr maeth fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth.

Treuliodd Vicky, 37 o Dorfaen, tua saith mlynedd gyda gofalwyr maeth pan oedd hi yn ei harddegau.

Dywedodd hi: “Mae cael fy maethu wedi gwneud gwahaniaeth anferth i fy mywyd.  Gwnaethon nhw i fi deimlo’n gartrefol, pen-blwydd, Nadolig, diwrnodau allan a gwyliau.

“Roedd yn braf cael cartref sefydlog, gydag awyrgylch sefydlog i fi gael ffynnu a sylweddoli fy mhotensial mewn bywyd, mewn gwirionedd.  Rwyf wedi gallu cadw swydd, rwyf wedi magu dau o blant.  Heb y gofal maeth, dydw i ddim yn gwybod ble fuaswn i heddiw.”

Dywedodd Darryl, 22, o Flaenau Gwent: “Symudais i gartref fy ngofalwyr maeth yn 2008, ac mae pethau wedi bod yn wych ers hynny.  Mae maethu wedi gwneud gwahaniaeth anferth yn fy mywyd i a buaswn i ddim y person yr ydw i nawr, buaswn i mewn lle gwael iawn.

“Ces i amser mor anodd pan oeddwn i’n blentyn. Roedd symud yn gymaint o newid ond ces i fy maethu gan yr awdurdod lleol, a oedd yn golygu fy mod i’n gallu aros ble’r oeddwn i’n byw. Diolch i fy ngofalwyr maeth am fy ngwneud i'r dyn yr wyf i heddiw.”

Mae Pythefnos Gofal Maeth eleni’n dathlu nerth a gwydnwch cymunedol maethu lleol.

Mae gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn cynnig mathau amrywiol o ofal maeth, gan gynnwys gofal tymor byr neu ofal ar benwythnosau.

Dywedodd ffoadur o Afghanistan, Mesi, a gafodd ofal dros dro gan ofalwr maeth tymor byr: “ Rwyf wedi bod yn y DU ers pum mlynedd, a phan ddes i yma, es i at deulu maeth i gychwyn.  Bûm yn byw gyda hi am dros ddwy flynedd.

“Pan ddes i i’r DU, doeddwn i ddim yn siarad unrhyw Saesneg.  Byddwn i’n dweud “Helo”, dyna’r cyfan. Rhoddodd hi lawer o gefnogaeth i mi ac rwy’n dal i gadw cysylltiad â hi; fe ffoniodd hi fi'r wythnos ddiwethaf a dweud “Sut mae popeth? Sut mae’r teulu? Mae hi wedi newid fy mywyd.”

Amcangyfrifir fod angen 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd yng Nghymru pob blwyddyn.

Does dim y fath beth â gofalwr maeth arferol – gallwch fod yn ofalwr maeth os ydych chi’n sengl, mewn perthynas cyfunrywiol a does dim angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae ein hawdurdod lleol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a gofalgar i blant mewn angen.

“Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch diweddaraf yma’n annog mwy o bobl i ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n sefydliad nid-er-elw, yn wahanol i asiantaethau maethu masnachol.

“Trwy ddod yn rhieni maeth, gallwn greu dyfodol mwy llewyrchus gyda’n gilydd a chael effaith parhaol ar fywydau’r bobl ifanc yma."

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud gwahaniaeth trwy ddod yn ofalwr maeth, ewch i: maethucymru.llyw.cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 24/05/2023 Nôl i’r Brig