Estyn yn canmol ysgol gynradd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Mai 2023
estyn

Mae ysgol gynradd yng Nghwmbrân wedi derbyn adroddiad eithriadol gan arolygwyr Estyn. 

Disgrifiodd arolygwyr Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant fel ysgol “hapus, gofalgar a chroesawgar " a chydnabyddon nhw ymrwymiad y staff i ddysgu a datblygiad parhaus.

Amlygodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos yma, y defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr ysgol, sy’n enghraifft flaenllaw yn yr ardal leol.

Dywedodd yr adroddiad: "Mae’r ysgol yn arwain dysgu proffesiynol yn y Gymraeg ar draws y clwstwr i ddatblygu disgyblion fel dinasyddion dwyieithog.

"Ar draws yr ysgol, mae athrawon yn cynnwys yr iaith Gymraeg yn eu gwersi i safon uchel. Dros amser, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu sgiliau iaith Gymraeg cryf ac maen nhw’n hyderus ac yn falch o fod yn Gymry."

Rhoddodd yr adroddiad glod hefyd am yr amgylchedd amrywiol a ddatblygwyd gan athrawon a staff.

Dywedodd: "Mae athrawon wedi creu amgylchedd dysgu diddorol mewn ystafelloedd dosbarth a’r awyr agored. 

"Mae athrawon yn gwneud defnydd da o’r awyr agored i gynyddu profiadau dysgu disgyblion a datblygu eu lles a’u creadigrwydd.

"Mae disgyblion yn ymgysylltu’n drwyadl yn eu dysg ac maen nhw’n disgrifio eu dysgu fel rhywbeth sy’n hwyl. Mae nifer o ddisgyblion yn rhan weithredol o’u dysgu ac maen nhw’n ymateb yn effeithiol i adborth llafar."

Gwnaeth yr adroddiad un argymhelliad – i athrawon gryfhau eu defnydd o asesiad ac adborth.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae hwn yn adroddiad Estyn eithriadol  a dylai’r gymuned gyfan yn yr ysgol fod yn falch iawn. 

"Mae’n anarferol i Estyn wneud dim ond un argymhelliad, sy’n dyst i’r staff ardderchog, y  disgyblion a’u teuluoedd cefnogol."

Bydd yr ysgol, sydd â phennaeth gweithredol mewn swydd tra bod disgwyl penodiad pennaeth newydd, yn creu cynllun gwaith i fynd i’r afael ag argymhelliad Estyn.     

Diwygiwyd Diwethaf: 19/05/2023 Nôl i’r Brig