Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Mai 2023
Heddiw, mae Cyngor Torfaen wedi dechrau siarad â thrigolion sy’n byw mewn nifer o gartrefi preswyl a chartrefi nyrsio yn y fwrdeistref, a’u teuluoedd, mewn ymateb i lythyr gan ddarparwyr gofal yn gofyn am daliadau ychwanegol am ddarparu gofal.
Mae llythyr ar y cyd gan bedwar darparwr gofal preswyl yn rhoi rhybudd o chwe wythnos i gleientiaid ynghylch eu bwriad i godi £63 yr wythnos yn ychwanegol arnynt, am ddarparu gofal.
Mae’r llythyr yn dweud bod darparwyr yn gwrthod derbyn y ffioedd gofal safonol a delir gan y cyngor ac y byddant yn codi tâl ar unigolion yn uniongyrchol am y £63 ychwanegol yr wythnos y mae ei angen arnynt, yn eu barn nhw, i ddarparu gofal.
Meddai Aelod Gweithredol Torfaen dros Oedolion a Thai, y Cynghorydd David Daniels: “Mae galwadau ariannol y darparwyr hyn wedi ein llorio ni a, heb os, mae’r hyn y mae’r llythyr yn gofyn amdano yn mynd i achosi gwir bryder i lawer o bobl.
“Yr hyn sy’n peri mwy o syndod i ni ynghylch y galwadau hyn yw mai dyma’r darparwyr sy’n cael eu talu orau yng Nghymru am y gwasanaethau penodol hyn. Dros gyfnod o bum mlynedd, mae ein darparwyr gofal preswyl a gofal nyrsio wedi cael codiad o 40 y cant yn y ffioedd a delir gan y cyngor ac rydym wedi gwneud cynnig pellach o 7.5% o gynnydd ar gyfer 2023/24. Yn ein barn ni mae hynny’n deg.
“Mae’n ymddangos bod darparwyr gofal yn dal teuluoedd neu’r cyngor ar gledr eu llaw er mwyn cael yr arian ychwanegol y maent yn gofyn amdano.”
“Mae’r busnesau hyn wedi cael cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru trwy gydol y pandemig hefyd, ac mae yna angen dybryd i ni edrych yn genedlaethol ar ffordd o newid y farchnad, fel bod yr arfer hwn o wneud elw ar draul pobl yn dod i ben. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r darparwyr hyn, fodd bynnag yn y dyfodol efallai na fydd gennym ddewis ond chwilio yn rhywle arall.
“Hoffwn dawelu meddwl teuluoedd a’u sicrhau na fyddwn yn siomi ein trigolion mwyaf bregus. Rydym wedi dechrau trafod y camau nesaf a’r trefniadau posibl gyda theuluoedd, er mwyn sicrhau na fydd y gofal yn newid a bod y gofal er lles pennaf y trigolion hynny.”
“Meddai Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol Torfaen sy’n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol: “Rydyn ni wrthi’n cysylltu â phob un y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt. Mae Cyngor Torfaen eisoes yn talu’r ffioedd uchaf yng Ngwent ac wedi cynnig codiad da yn ffioedd darparwyr gofal eleni eto. Byddai’r galwad hwn yn costio £900,000 ychwanegol i’r cyngor eleni ac, yn anochel, byddai hynny’n arwain at doriadau mewn mannau eraill.
“Mae’r llythyr yn nodi bod arnynt angen £63 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer y costau gofal, ond mae’r ffioedd yr ydym yn eu talu eisoes yn uwch na’r ffioedd y mae darparwyr sy’n cynnig yr un gwasanaethau gofal yn eu cael mewn ardaloedd cyfagos. Byddwn yn mynd yn ôl at y bwrdd er mwyn ceisio deall sut y maen nhw wedi cyfrifo’r diffyg honedig hwn, a sut y mae eu gofal a’u costau yn wahanol yn Nhorfaen.
“Hoffwn sicrhau teuluoedd na fydd eu hanwyliaid yn gweld unrhyw newidiadau mewn gofal tra bod y trafodaethau hyn yn parhau.”