Disgyblion â rhan lesol yn yr ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Mai 2023
IMG_8827

Mae staff Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer yn cynnig cyfle i ddisgyblion i ymuno â bws cerdded yr wythnos hon, yn rhan o #WythnosCerddedI’rYsgol. 

Bydd y bws yn cwrdd mewn maes parcio cyhoeddus cyfagos am 8.40am o ddydd Llun i ddydd Gwener, a’r athrawon ac aelodau o grŵp Heddlu Bach yr ysgol yn hebrwng y disgyblion i’r ysgol.  

Mae annog disgyblion i gerdded neu feicio i’r ysgol yn rhan o Gynllun Teithio Llesol newydd yr ysgol, a bydd corff llywodraethu’r ysgol yn trafod y cynllun hwn yr wythnos hon.

Datblygwyd Cynllun Teithio Llesol yr Ysgol ar y cyd â phwyllgor disgyblion yr ysgol, sy’n annog disgyblion i chwarae rhan weithgar ym mywyd yr ysgol ac i fynychu’r ysgol yn rheolaidd.

Meddai’r prif fachgen, Lucas, a fu’n helpu hebrwng y grŵp o 22 o ddisgyblion ddydd Llun: "Fel arfer, mae fy nhad yn fy ngollwng i yn y maes parcio ac yna’n fy nghasglu, yn hytrach na gyrru i’r ysgol. Mae cerdded yn dda i’n hiechyd a’n lles.”

Ychwanegodd y brif ferch, Lola: "Mae’n well gen i gerdded i’r ysgol. Mae’n golygu bod llai o geir tu allan i’r ysgol ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol."

Mewn arolwg diweddar o ddisgyblion, gwelwyd bod tua 52 y cant o ddisgyblion eisoes yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol yn rheolaidd.

Meddai’r Pennaeth, Sarah Truelove: "Mae’n wych fod cymaint o ddisgyblion eisoes yn teithio i’r ysgol mewn ffordd lesol ond rydyn ni eisiau gwella hyn eto.

"Rydyn ni’n cynnig gwersi hyfedredd beicio i holl ddisgyblion blwyddyn chwech ac mae Cyngor Torfaen wedi gosod storfa feiciau newydd ar gyfer 20 o feiciau yn ddiweddar, ac mae hyn yn mynd i fod yn gymorth mawr hefyd." 

Meddai Mrs Truelove: "Rydyn ni am i’n plant ddod i’r ysgol yn rheolaidd a mwynhau bod yn rhan o fywyd yr ysgol. Felly, dim ond y rheiny sydd â phresenoldeb da sy’n cael ymuno  a’r pwyllgor disgyblion a grwpiau fel gwirfoddolwyr Heddlu Bach sy’n cael ei redeg ar y cyd â Heddlu Gwent.

"Ar ôl y pandemig, gwelwyd cyfartaledd y ffigurau presenoldeb yn disgyn o 95 y cant i 88 y cant. Rydyn ni wedi bod yn gwneud llawer o waith i gefnogi disgyblion a theuluoedd ac mae cyfartaledd ein presenoldeb nawr tua 90 y cant.

Yn rhan o ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen mae’r ysgol wedi comisiynu artist i beintio bwrdd presenoldeb yn neuadd yr ysgol, fel neges barhaus i atgoffa pob un am bwysigrwydd presenoldeb da. 

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch #DdimMewnColliMas, ewch i’n gwefan. 

Mae cerdded i’r ysgol ac yn ôl yn rheolaidd yn un enghraifft o deithio llesol – sef cerdded neu feicio siwrneiau byr y byddech chi’n eu gwneud mewn car fel arall. Cewch ddarganfod sut y gallwch chi deithio’n fwy llesol yn Nhorfaen yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2023 Nôl i’r Brig