Teulu maeth yn cadw brodyr gyda'i gilydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Mai 2023
fostering family 2

Mae Lorna a Jason wedi darganfod nad yw gweithio’n llawn-amser a magu dau o blant yn rhwystrau rhag dod yn ofalwyr maeth llawn-amser.

Yn ôl y pâr o Flaenafon, sydd â dau o blant, eu gwaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a’u sbardunodd i ddod yn ofalwyr maeth gyda’r Awdurdod Lleol ym mis Medi 2021.

Yn ystod eu hyfforddiant, cawsant ysbrydoliaeth i arbenigo mewn maethu grwpiau o frodyr a chwiorydd ac ers hynny maen nhw wedi maethu dau frawd.

Meddai Lorna, sy’n gweithio fel rheolwr iechyd meddwl ac anableddau dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae gweld y berthynas sydd gan ein plant ni wedi gwneud i ni eisiau cefnogi brodyr a chwiorydd eraill a’u cadw nhw gyda’i gilydd yn ystod cyfnodau anodd.”  

“Rydyn ni’n teimlo bod gallu cynnig cartref sefydlog ochr yn ochr â’n plant ni, sy’n mwynhau’r ysgol a gweithgareddau ar-ôl-ysgol, yn cynnig amgylchedd gwych lle gall plant eraill ffynnu.”

“Mae ein plant ni wedi cofleidio maethu ac maen nhw’n trin y plant sydd yn ein gofal fel eu brodyr eu hunain.”

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Torfaen yn ymfalchïo yn ei 121 o ofalwyr maeth prif ffrwd ac mae’n anelu at recriwtio mwy. 

Os nad oes modd i blant gael eu maethu gan ofalwyr yr Awdurdod Lleol, efallai y cânt eu maethu trwy asiantaethau eraill. Yn aml, mae hyn yn golygu eu bod yn byw y tu allan i’w hardal leol, i ffwrdd oddi wrth eu hysgol, eu teulu a’u ffrindiau, ac mae’n llai tebygol y byddant yn gallu byw gyda’u brodyr a’u chwiorydd.

Mae Jason yn gweithio fel gweithiwr cymorth gyda phobl ag anableddau ac ychwanegodd: “I ni, mae’n golygu rhoi cymaint o normalrwydd, cariad a gofal â phosibl, waeth a ydy hynny am ychydig wythnosau neu ychydig flynyddoedd.  Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni barhau i faethu a chefnogi llawer mwy o blant yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg yng Nghyngor Torfaen: “Mae’r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd cadw plant maeth yn y gymuned leol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

“Mae lleoli plant gyda gofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol yn parhau i fod yn elfen hanfodol er mwyn cynnal yr ymdeimlad hollbwysig hwn o barhad a pherthyn.”

Yn anffodus, mae’r galw am deuluoedd maeth yn dal i fod yn uchel yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod angen tua 550 o deuluoedd maeth bob blwyddyn i ofalu am y plant a’r bobl ifanc y mae angen cartrefi diogel a chariadus arnynt.

Am ragor o wybodaeth am faethu neu i archwilio’r posibilrwydd o ddod yn ofalwr maeth, ewch i: Maethu Cymru Torfaen 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/05/2023 Nôl i’r Brig