Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Mai 2023
Roedd bron i 5000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru llynedd.
Wrth i deuluoedd ledled y wlad fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, mae maethu Cymru’n galw ar gyflogwyr yng Nghymru i fod yn ‘gyfeillgar at faethu’, yn y gobaith o ymdrin â’r camddealltwriaeth na allwch chi barhau i weithio os ydych yn ofalwr maeth.
Ym Mhythefnos Gofal Maeth TM, 15 - 28 Mai, mae’r Rhwydwaith Maethu, prif elusen maethu’r DU, a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru’n galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi eu cefnogaeth a’i gwneud yn haws i’w staff gyfuno maethu a gweithio.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu a gwaith arall. Mae eu polisi ‘cyfeillgar at faethu’ yn annog cyflogwyr i gynnig hyblygrwydd ac amser o’r gwaith i staff sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac yn mynd trwy’r broses ymgeisio.
Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi staff sydd eisoes yn ofalwyr maeth, gan roi amser iddyn nhw ar gyfer hyfforddiant, cyfarfodydd panel, i setlo plentyn newydd i’w cartref ac ymateb i unrhyw argyfwng a allai godi.
Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth i benderfyniad y cyflogai i fod yn ofalwr maeth.
Mae tîm maethu Torfaen wedi bod yn ymgysylltu busnesau lleol â ffigyrau cadwyn bapur Maethu Cymru, fel symbol o ymdrechion unedig i wella pethau i blant lleol. Dyma’r cam cyntaf wrth sefydlu perthnasau parhaol gyda busnesau ledled Gwent.
Dywedodd pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope: “Wrth i’r angen am ofalwyr maeth dyfu, mae angen arnom ni i’n cymuned yng Nghymru ddod i’n cynorthwyo.
“Rydym yn gwybod ein bod ni’n gweld canlyniadau gwell pan fo plant yn aros mewn cysylltiad, yn aros yn lleol a phan fod gyda nhw rywun i aros gyda nhw dros y tymor hir.
“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu staff i fod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i barhau mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac, yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”
Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: “Mae estyn allan at gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar at faethu’n un o nifer o bethau yr ydym yn gwneud i gefnogi’n gofalwyr maeth yma yn Nhorfaen.
“Er mwyn cyd-fynd ag ymrwymiadau bywyd a gwaith, rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg i ofalwyr maeth.
“Mae hyn yn golygu bod unrhyw hyfforddiant a sgiliau trosglwyddadwy o’u gweithle’n cael eu cydnabod, yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu gwerthfawr sy’n berthnasol i’r plant y maen nhw’n gofalu amdanynt, trwy fframwaith cenedlaethol dysgu a datblygu Maethu Cymru."
I ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i: fosterwales.torfaen.gov.wales
I ddod yn gyflogwr cyfeillgar i faethu, cysylltwch â’r Rhwydwaith Maethu fosteringfriendly@fostering.net i ddysgu mwy.