Disgyblion yn mwynhau cyfleoedd dysgu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31 Mawrth 2023
Llanyrafon Primary #NIMO

Children stood in front of a Not In Miss Out banner

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Llanyrafon yn mwynhau’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw i ddysgu a chwarae, yn ôl adroddiad gan Estyn. 

Ymwelodd arolygwyr â’r ysgol yng Nghwmbrân yn Ionawr, a gwelon nhw fod disgyblion yn gwneud cynnydd da ym mhob maes dysgu a bod eu hymddygiad yn "rhagorol". 

Yn eu hadroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos yma, rhoddodd yr arolygwyr glod i staff yr ysgol hefyd, am eu hagwedd tuag at les.  

Dywedon nhw: "Mae ffordd yr ysgol o ymdrin â lles yn gryfder sylweddol ac, yn arbennig, mae’r disgyblion, staff a theuluoedd yn gwybod y byddan nhw’n cael y gefnogaeth emosiynol y maen nhw eu hangen. 

"Mae ymddygiad y disgyblion yn rhagorol ac maen nhw’n ymgysylltu’n dda ar y cyfan gyda’u dysgu. O ganlyniad, maen nhw’n gwneud cynnydd da mewn nifer o agweddau o’u dysgu."

Dywedodd y Pennaeth, Eve Rowlands: "Fel ysgol, rydym ni’n falch iawn o’n harolwg gan Estyn ac rydym yn falch bod y pwysigrwydd yr ydym yn gosod ar les disgyblion wedi cael ei gydnabod.  

"Mae Estyn wedi crynhoi pethau’n berffaith wrth ddweud ‘Mae Ysgol Gynradd Llanyrafon yn ysgol hapus ac anogol.’ Rydym yn edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar ein harfer da." 

Cydnabyddodd yr adroddiad hefyd waith y staff i greu "teimlad cryf o berthyn ac yn cynnal perthnasau cadarnhaol ar draws cymuned gyfan yr ysgol". 

Yn Hydref llynedd, cymerodd staff ran yn Her Tri Chopa’r Fenni er cof am un o’r disgyblion, Olivier Roberts, a fu farw o fath anghyffredin o diwmor ar yr ymennydd ym Mawrth 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Addysg: "Dylai’r staff a’r disgyblion yn Ysgol Gynradd Llanyrafon fod yn falch iawn o’r adroddiad yma gan Estyn. Nid yn unig rhoddodd yr arolygwyr glod i ddisgyblion am eu hagwedd at ddysgu ond cydnabyddon nhw hefyd dull anogol yr ysgol gyda phob math o addysg." 

Gwnaeth arolygwyr bedwar argymhelliad: canolbwyntio prosesau hunanwerthusiad a gwelliant yn fwy penodol ar effaith addysgu ar ddysgu ar draws yr ysgol; parhau i ddatblygu cwricwlwm yr ysgol i sicrhau ei fod yn cynnig ehangder a dyfnder o ddysgu ar draws yr ystod lawn o ddysgu a phrofiad; gwella cyfleodd i ddisgyblion ddatblygu a defnyddio’u sgiliau digidol a mynd i’r afael â mater o ran diogelu mewn perthynas â ffens yr ysgol. 

Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion yr arolwg. 

Roedd disgyblion yn Ysgol Gynradd Llanyrafon ymysg y cyntaf i gefnogi ymgyrch #DdimYnoColliAllan i wella presenoldeb yn yr ysgol. 

Cymeron nhw ran mewn fideo gyda thair ysgol arall – gallwch weld y fideo yma.  Gallwch ddilyn yr ymgyrch trwy’r cyfryngau cymdeithasol trwy chwilio am DdimYnoColliAllan. 

Diwygiwyd Diwethaf: 31/03/2023 Nôl i’r Brig