Tynnu Ysgol Gymraeg Gwynllyw allan o Fesurau Arbennig

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Mawrth 2023
ygg

Ar ôl archwiliad diweddar gan Estyn, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi o Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, bernir bod Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi gwneud digon o gynnydd i gael ei thynnu o’r rhestr o ysgolion sydd angen mesurau arbennig.

Barnodd y tîm arolygu fod Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi cyflawni digon o gynnydd mewn perthynas  â phum argymhelliad ar ôl yr arolwg craidd mwyaf diweddar ac, o ganlyniad, ni fydd mwy o ymweliadau monitro mewn perthynas â’r arolwg yma.

Canfu’r arolygwyr:

  • Gwelliannau yng ngwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr am bynciau
  • Gwelliannau yn ansawdd addysgu, asesu ac adborth
  • Gwelliannau mewn llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gwelliannau mewn uwch arweinyddiaeth, arweinyddiaeth ganol a llywodraethiant
  • Gwelliannau yn llymder hunanwerthusiad ac effeithlonrwydd prosesu gwella ansawdd

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: “Ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd, mae gan yr ysgol bennaeth parhaol gyda gweledigaeth eglur a nawr gyda’r, gyda chefnogaeth yr ysgol gyfan mae’n datblygu diwylliant o gydweithrediad i sicrhau bod y gwelliant yma’n parhau.

“Mae’r ysgol wedi mynd i’r afael â nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys addysgu a sgiliau, ac, o ganlyniad, mae gwelliant nodedig wedi bod ers yr arolwg craidd.  Rwy’ am weld mwy a mwy o blant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd yr arolwg yma a’r buddsoddiad sylweddol yn yr ysgol yn rhoi hyder i ddisgyblion a rhieni presennol yr ysgol, a rhai’r dyfodol sydd am ddewis YGG.

Dywedodd Mark Jones, a benodwyd yn Bennaeth yn 2023, ar ôl blwyddyn fel Pennaeth cefnogol: “Mae arolygwyr wedi cydnabod effaith y gwelliannau yn yr ysgol ac rwy’n falch bod ein gwelliannau mewn arweinyddiaeth ac ansawdd y ddarpariaeth wedi gwella addysgu a deilliannau dysgwyr. Er bod arolygwyr wedi nodi nifer owelliannau gwirioneddol ers yr arolwg craidd yn 2019, mae ein taith o wella’n parhau ac mae yna agweddau ar waith yr ysgol sydd angen datblygiad pellach wrth i ni sicrhau'r addysg a’r safonau gorau i’n dysgwyr i gyd.”

Dywedodd Stephen Vickers, Prif Weithredwr Cyngor Torfaen: “Mae hon yn ysgol sydd mynd trwy drawsnewidiad cadarnhaol ac rwy’n falch fod hyn wedi ei gydnabod gan yr arolygwyr. Mae gwelliant sylweddol wedi bod ar draws yr ysgol ac, yn fwyaf pwysig, mae disgyblion nawr yn derbyn y lefel o addysg ac yn gwneud y cynnydd yr ydym yn disgwyl gweld yn ein hysgolion.”

Diwygiwyd Diwethaf: 29/03/2023 Nôl i’r Brig