Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Mawrth 2023
Two pupils on bicycles outside Blenheim Road Community Primary School
Mae tair ysgol gynradd wedi cytuno i ymuno â rhaglen genedlaethol sy’n anelu at gael plant ysgol i gerdded, seiclo neu reidio sgwter i’r ysgol yn rheolaidd.
I nodi Wythnos Stroliwch a Roliwch Sustrans yr wythnos yma, bydd Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer ym Mhont-y-pŵl, a Ffederasiwn Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân, yn cofrestru ar gyfer cynllun Teithiau Llesol yr elusen.
Mae’r rhaglen yn cynnig gweithgareddau mewn cynulleidfaoedd ac ystafelloedd dosbarth yn ymwneud â theithio llesol yn ogystal â chefnogaeth ymarferol fel sesiwn sgiliau beiciau a sgwter a hyfforddiant mewn gwirio diogelwch beiciau.
Yn Hydref, Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa oedd y cyntaf yn Nhorfaen i lansio Cynlluniau Ysgol Teithio Llesol.
Dywedodd Leticia, sy’n aelod o bwyllgor eco Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim: "Y ffordd orau i ddod i’r ysgol yw cerdded neu seiclo oherwydd bod hynny’n well i’r amgylchedd ac yn llawer mwy o hwyl!"
Mae tîm Teithiol Llesol Cyngor Torfaen yn gweithio nawr gydag Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam, Ysgol Gynradd Croesyceiliog, Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Gynradd Tref Gruffydd i ddatblygu eu cynlluniau Ysgol Teithio Llesol eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’n wych gweld bod cymaint o ysgolion am gynyddu nifer y disgyblion a staff sy’n teithio i’r ysgol mewn ffordd lesol bob dydd.
"Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithiau byr trwy gerdded, seiclo neu reidio sgwter yn hytrach na mynd gyda char. I’r disgyblion neu staff hynny sy’n byw’n rhy bell i ffwrdd i gerdded, rydym yn annog ysgolion i ystyried ffyrdd amgen, fel sefydlu mannau parcio a cherdded neu fysiau cerdded o bellter byr.
"Mae cael Cynlluniau Ysgolion Teithio Llesol yn fuddiol i ddisgyblion a’u teuluoedd, a’r amgylchedd, a’r gobaith yw y byddan nhw’n gwella diogelwch trwy leihau nifer y ceir y tu allan i ysgolion."
Os hoffai eich ysgol wybod mwy am y Cynlluniau Ysgolion Teithio Llesol, danfonwch e-bost at Donna Edwards-John trwy Donna.Edwards-John@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742861.
I wybod mwy am Deithio Llesol yn Nhorfaen, gan gynnwys map Teithio Llesol Cyngor Torfaen, ewch at ein gwefan.