Bws recriwtio gofal cymdeithasol ar ben ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Mawrth 2023
We Care Bus Image Torfaen

Members of Torfaen Council stood in front of the We Care Wales branded bus

Mae bws sy’n ceisio helpu pobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal wedi cychwyn ar ei daith yn Nhorfaen heddiw.

Bydd bws Gofalwn Cymru yn treulio chwe mis yn teithio ar draws Gwent fel rhan o ymgyrch recriwtio gan awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

I gyd-fynd â Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, treuliodd y bws y diwrnod cyntaf ym maes parcio Morrisons, yng Nghwmbrân, ble cafodd aelodau’r cyhoedd gyfle i siarad â staff Cyngor Torfaen a darparwyr gofal lleol am hyfforddiant lleol a chyfleoedd am swyddi. 

Dywedodd Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Torfaen a Chadeirydd Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol Gwent: “Mae bws Gofalwn Cymru’n fenter gyffrous i Went.  Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dod ag amrywiaeth eang o gyflogwyr gofal cymdeithasol ynghyd a dangos i drigolion y rolau amrywiol a gwerth chweil sydd gan y sector i’w cynnig.

“Does dim ffordd well o ddysgu am yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol na dod i gael sgwrs gyda’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector.”

Mae’r bws wedi cael ei ariannu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, mewn partneriaeth â Gofalwn Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Am restr lawn o ddyddiadau ac amserau a ble fydd y bws – a swyddi gwag sydd ar gael nawr – ewch at wefan Gofalwn Cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2023 Nôl i’r Brig