Cynlluniau i wella gwasanaethau cwsmeriaid

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Mawrth 2023
Get Involved

Mae tua 400 o alwadau ffôn yn cael eu gwneud i ganolfan gyswllt Cyngor Torfaen pob dydd ac mae ciwiau’n aml pan fydd yn brysur.

Mae nifer o drigolion yn ffonio i gael gwybodaeth neu i ofyn am wasanaeth neu i ddweud am broblem ac mae modd gwneud y rhain trwy’r wefan neu ap MyTorfaen.

Mae strategaeth ddrafft wedi ei datblygu nawr i wella technoleg ddigidol y cyngor er mwyn annog mwy o drigolion i gael ein gwasanaethau ar-lein.  Gallwch ddarllen y strategaeth ddrafft ar-lein a rhoi eich barn amdani trwy Get Involved Torfaen

Y bwriad yw nid gorfodi pawb i wneud pob dim ar-lein, ond yn hytrach i wella’r profiad i’r rheiny sy’n gallu ac sy’n fodlon.  Bydd hyn yn galluogi’n staff wedyn i helpu’r cwsmeriaid hynny sydd angen siarad â rhywun yn bersonol mewn ffordd well.

Dywedodd James Vale, Pennaeth Cwsmeriaid, TGCh a Digidol yng Nghyngor Torfaen: “Ers y pandemig, rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y trigolion sydd am gysylltu â ni ar-lein.

“Rydym ni am barhau i wella ein gwasanaethau ar-lein fel ein gwefan a’r ap.  Bydd hyn yn golygu mai cyswllt ar-lein, i’r rheiny sydd â’r gallu digidol a’r dechnoleg, fydd y ffordd hawsaf a chyflymaf i drafod pethau gyda’r cyngor.

"Bydd hefyd yn rhyddhau ein staff mewn canolfannau cyswllt a chwsmeriaid i helpu’r cwsmeriaid hynny sydd angen siarad â rhywun yn bersonol oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu mynd at y rhyngrwyd neu oherwydd bod ganddyn nhw ymholiadau arbennig o gymhleth.

“Hoffem glywed eich barn ar y ffordd yma ymlaen ac unrhyw awgrymiadau sydd gennych."

Fel rhan o’r ymgynghoriad, bydd y tîm digidol yn ymweld â phaneli trigolion Torfaen, gan gynnwys y tri grŵp Dros 50 oed ac yn cynnal sesiynau galw heibio gyda’r cyhoedd, o 10am tan 3pm yn:

  • Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar ddydd Mercher 22 Mawrth.
  • Llyfrgell Cwmbrân ar ddydd Gwener 24 Mawrth.
  • Canolfan Adnoddau Blaenafon ar ddydd Gwener 31 Mawrth.

I ddysgu mwy, ewch i Get Involved Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/03/2023 Nôl i’r Brig