Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Mehefin 2023
Yn ystod Wythnos Gofalwyr 2023 eleni, fe ddaeth cannoedd o ofalwyr di-dâl o bob cwr o Dorfaen at ei gilydd.
Cawsant gyfle i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau, fel modd o ddiolch iddynt am y gefnogaeth y maent yn ei rhoi.
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol sy'n ceisio tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniadau y maent yn eu gwneud i deuluoedd a chymunedau.
Wedi'i drefnu gan Wasanaeth Gofalwyr Cyngor Torfaen, gwahoddwyd gofalwyr di-dâl i fynychu noson werthfawrogi yn Nhŷ Panteg ym Mhont-y-pŵl, yn ogystal â thaith i’r sinema ac ymweliad â’r amgueddfa.
Meddai Lynn Hounsome, sy’n gofalu am ei gŵr: "Fe wnes i fwynhau'r noson yn fawr iawn. Cefais groeso arbennig pan gyrhaeddais, ac roedd yr adloniant a'r bwyd yn wych.
"Rwy'n gofalu am fy ngŵr yn llawn amser a gall fod yn flinedig, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ond mae'r gefnogaeth yr wyf yn ei derbyn gan y grŵp cymorth dementia rwy'n ei fynychu yn Amgueddfa Pont-y-pŵl yn rhagorol.
"Rwyf hefyd wedi derbyn gwasanaeth da iawn gan y gwasanaethau cymdeithasol a Chysylltwyr Cymunedol Torfaen, ac rwyf yn cysylltu’n rheolaidd â Louise, y gweithiwr cymorth i ofalwyr, sy'n rhoi cymorth parhaus i mi.”
Cafodd gofalwyr ifanc ar draws y fwrdeistref gyfle i fwynhau disgo, bowlio a phrofiad tag laser, yn ogystal â bingo a gweithdy celf a chrefft.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Rydym yn cyfleu ein gwerthfawrogiad o waelod calon i’r gofalwyr di-dâl ar draws ein cymunedau yn ystod Wythnos Gofalwyr. Mae eich ymroddiad anhunanol a'ch gofal tosturiol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eich anwyliaid ac yn creu effaith ar y gymuned ehangach.”
"Mae’r Wythnos Gofalwyr yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud, ond byddwn yn parhau i weithio drwy gydol y flwyddyn, i hyrwyddo hawliau gofalwyr, a’ch cefnogi wrth i chi gyflawni eich rolau hanfodol o ofalu am eich anwyliaid."
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth a gynigir gan y Cyngor i ofalwyr, cysylltwch â Louise Hook, Swyddog Gofalwyr Oedolion, ar 07966 301108 neu louise.hook@torfaen.gov.uk neu Rebecca Elvers, Swyddog Gofalwyr Ifanc ar 01633648113