Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Mehefin 2023
Mae gofalwyr di-dâl yn cael cynnig o gyrsiau e-ddysgu i’w helpu gyda’u rolau gofalu, diolch i Gyngor Torfaen.
Amcangyfrifir bod cannoedd o bobl yn gofalu am anwyliaid yn Nhorfaen, a bydd lawer ohonyn nhw wedi derbyn y rôl dros gyfnod o flynyddoedd heb dderbyn erioed hyfforddiant ymwybyddiaeth mewn meysydd fel symud a thrin person, rhoi meddyginiaeth neu reoli straen.
Nawr, mae’r cyngor yn cynnig cyfle i ofalwyr di-dâl gofrestru am amrywiaeth o gyrsiau sy’n cael eu cynnig i staff yn unig ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai, sydd newydd gael ei benodi’n Hyrwyddwr Gofalwyr y Cyngor: "Mae’r wythnos yma’n Wythnos Gofalwyr sy’n gydnabyddiaeth o’r gefnogaeth mae gofalwyr di-dâl yn rhoi i’w hanwyliaid, felly mae’n iawn eu bod hefyd yn cael y cymorth y mae ei angen arnyn nhw.
"Dyma’r tro cyntaf yr ydym ni wedi cynnig y gwasanaeth yma ac mae gennym ddiddordeb i glywed pa gyrsiau sy’n boblogaidd a pha gyrsiau byddai’n ddefnyddiol i bobl.
"Rydym yn gwybod y bydd nifer o bobl sydd ddim yn ystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl, felly rwy’n annog unrhyw un sy’n gofalu am gymar, perthynas neu ffrind na fyddai’n gallu ymdopi heb eu cymorth i gysylltu â ni i weld pa gymorth sydd ar gael."
Mae’r cyrsiau ar gael ar-lein a gallwch eu dilyn yn eich amser eich hunain o gwmpas gofynion gofal. I wybod pa hyfforddiant sydd ar gael, ewch i safle Datblygiad Sefydliadol Cyngor Torfaen
Wrth gwblhau ffurflenni bwcio, rhowch "Unpaid Carer" o dan Organisation.
Am fanylion grwpiau cymorth lleol i ofalwyr, yn ogystal â gweithgareddau Wythnos Gofalwyr, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.
Os ydych chi’n ofalwr di-dâl ac yn dymuno cael gwybodaeth am gefnogaeth arall, gan gynnwys budd-daliadau a grantiau, danfonwch e-bost at Weithiwr Cefnogaeth Gofalwyr, Louise Hook trwy louise.hook@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07966 301108 neu 01495 766138. Neu, ewch i dudalen Facebook Gofalwyr sy’n Oedolion yn Nhorfaen.
(O’r chwith i’r dde: Gofalwyr Muriel Williams a Jean Haynes)