Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Gorffennaf 2023
Bydd gwaith i adnewyddu cyrtiau tenis Parc Cwmbrân yn dechrau ddydd Llun 31 Gorffennaf.
Bydd y gwaith adnewyddu yn cynnwys gwella arwyneb y cyrtiau, gosod ffensys newydd ar ffiniau'r cyrtiau a marciau newydd ar y cyrtiau.
Rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd tua chwe wythnos i’w gwblhau, serch hynny, bydd y cyfnod amser hwn yn gwbl ddibynnol ar y tywydd am fod ambell elfen o’r gwaith yn galw am gyfnodau o dywydd sych.
Ni fydd yr ardaloedd chwarae yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod hwn, a bydd ffens yn cael ei godi o amgylch y cyrtiau am resymau iechyd a diogelwch.