Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2023
Mae treftadaeth ddiwydiannol Blaenafon wedi ei chynnwys mewn map rhyngweithiol newydd sy’n dathlu safleoedd UNESCO yn y DU, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.
O fynydd-diroedd eang ac arfordiroedd trawiadol i ddinasoedd bywiog a thirweddau gwledig - mae safleoedd UNESCO yn y DU yn gyrchfannau treftadaeth naturiol a diwylliannol o’r radd flaenaf.
Mae’r map newydd, a rhyddhawyd ar-lein yr wythnos yma, yn cynnwys 29 o Safleoedd Treftadaeth y Byd, 13 o Ddinasoedd Creadigol, 9 Geoparc Byd-eang a 7 o Warchodfeydd Biosffer dros 13 y cant o dir y DU.
Mae’r map, a ddyluniwyd gan y mapiwr creadigol, Tom Woolley, yn pwysleisio bod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon "yn dyst i ymdrech dynol ac mae wedi ei ffurfio gan ddwy ganrif o gloddio glo a gwneud haearn", ochr yn ochr â lleoliadau eraill gan gynnwys golygfeydd godidog y dirwedd llechi yn y Gogledd Orllewin ac yn Ucheldiroedd yr Alban, treftadaeth lenyddol Manceinion a Chaeredin a mynyddoedd Ardal Llynnoedd Lloegr neu gopaon Fforest Fawr.
Gwahoddir ymwelwyr i glicio a dysgu mwy am atyniadau allweddol yn Nhirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, gan gynnwys Canolfan Treftadaeth y Byd, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit, Gweithfeydd Haearn Blaenafon a Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon, yn ogystal â Thref Dreftadaeth Blaenafon.
Dywedodd James Bridge, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO: “Bydd y map UNESCO yn y DU newydd yn ysbrydoli pobl gyda mannau i ymweld â nhw. Mae’n dangos amrywiaeth y dreftadaeth naturiol, ddiwylliannol, ac wedi ei hadeiladu a ddynodwyd gan UNESCO fel rhywbeth sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol yn y DU. Mae’r map gwych yma’n dangos mannau i fynd atynt, ar eich stepen drws a thu hwnt, rhai enwog a’r rheiny i’w canfod am y tro cyntaf.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Rwy’n hynod o falch fod Cymru’n gartref i bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r map newydd yma’n dangos ein cyrchfannau mewn ffordd hyfryd, ac wrth i ni barhau i warchod y safleoedd yma, bydd eu harwyddocâd yn cael ei fwynhau gan genedlaethau i ddod. Mae Cymru’n genedl agored a chroesawgar, un sy’n gwahodd y byd i ganfod ein rhyfeddodau naturiol, a diwylliant a threftadaeth y mae safleoedd UNESCO’n cynnig.”
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Rydym yn hynod o falch fod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn un o’r 29 o Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd ar y map newydd yma.
"Rwy’n annog pobl i ymweld a mwynhau'r cyfan sydd gan y lle anhygoel yma i’w gynnig, o’r dirwedd anhygoel, syfrdanol i’r atyniadau gwych, y safleoedd a’r gweithgareddau sydd ar gael sy’n adrodd ac yn dangos hanes cymdeithasol a diwydiannol de Cymru.”
Cynhyrchwyd y map gan Gomisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO fel rhan o brosiect Local to Global, a gafodd ei wneud yn bosibl gan ymgyrch GREAT a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol. Bwriad Local to Global yw datblygu rhwydwaith cydnerth ar gyfer Safleoedd Dynodedig UNESCO yn y DU.
Gallwch lawrlwytho’r map o wefan UNESCO.
Dysgwch fwy am Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ar wefan Visit Blaenavon