Wedi ei bostio ar Dydd Llun 3 Gorffennaf 2023
Yn rhan o’r canfasio blynyddol, mae trigolion yn cael eu hannog i wirio manylion eu cofrestriad etholiadol.
Bydd negeseuon e-bost a llythyron yn cael eu hanfon allan yr wythnos hon ac yn rhestru’r bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad chi. Os cewch neges e-bost, RHAID i chi ymateb. Bydd y geiriau "Communication A" yn llinell destun y neges e-bost.
Os nad oes gennym gyfeiriad e-bost ar eich cyfer, cewch lythyr trwy’r post a bydd gofyn i chi ateb y llythyr dim ond os oes angen gwneud unrhyw newidiadau arnoch.
Mae’r canfasio blynyddol yn gymorth i Gyngor Torfaen sicrhau bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru a bod pob un a ddylai fod wedi’u cofrestru wedi gwneud hynny ac yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau sydd ar droed.
Nawr, mae unrhyw un rhwng 14 a 18 oed yn gallu cofrestru, a gall unrhyw un sy’n 16 neu’n hŷn bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru ac etholiadau’r Senedd, gan gynnwys gwladolion o dramor.
Meddai Caroline Genever-Jones, Rheolwr Busnes ac Etholiadau Cyngor Torfaen: "Mae’r canfasio blynyddol bellach ar y gweill ac fe fydd aelwydydd yn dechrau cael negeseuon e-bost neu lythyron canfasio'r wythnos hon.
“Os nad ydych yn clywed gennym o gwbl, yna efallai nad ydych chi ar y gofrestr. Gallwch gofrestru ar-lein ar Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK (www.gov.uk) neu gysylltu â’r tîm etholiadau. Os oes well gennych gyfathrebu trwy neges e-bost, nodwch eich cyfeiriad e-bost ar y ffurflenni cofrestru.”
Anogir y rheiny sydd wedi symud i gyfeiriad newydd yn ddiweddar i wirio’u manylion. Yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol mae’r rheiny sydd wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru o gymharu â’r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am gyfnod hir.
Gall trigolion sydd â chwestiynau am eu statws cofrestru gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eu cyngor lleol ar 01495 762200 neu anfon neges e-bost i voting@torfaen.gov.uk
O fis Hydref eleni, bydd gofyn i bleidleiswyr ddangos dull adnabod â llun neu geisio am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r Deyrnas Unedig ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Ni fydd angen i chi ddangos dull adnabod â llun er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r cyngor lleol nac yn etholiadau’r Senedd yng Nghymru. Ragor o wybodaeth am ddulliau adnabod pleidleiswyr.