Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023
Heddiw, roedd cabinet Cyngor Torfaen yn ystyried adroddiad a oedd yn diweddaru sefyllfa ariannol y cyngor ar gyfer 2022/23 ac sydd, yn bwysig, yn amlinellu sut mae’r cyngor yn symud tuag at sefyllfa o gyllideb gytbwys yn 2023/24.
Roedd rhagolygon blaenorol a oedd yn awgrymu cynnydd o 1.95% yn Nhreth y Cyngor a chynnydd disgwyliedig o 3.5% yn ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dangos diffyg i ddechrau o £12.5miliwn ar gyfer 2023/2024.
Wrth siarad yn siambr y cyngor, croesawodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Adnoddau, y darlun ariannol gwell ers yr adroddiad diwethaf yn Nhachwedd 2022.
Dywedodd y Cyng. Morgan: “Rhoddodd setliad dros dro’r cyngor a dderbyniwyd yn Rhagfyr gan Lywodraeth Cymru hwb ariannol i’w groesawu oedd uwchben yr hyn a ddangoswyd i gychwyn. Mae hyn yn galluogi’r cyngor nawr i symud tuag at sefyllfa gytbwys ar gyfer 2023/24.
“Derbyniodd y cyngor gynnydd o £12miliwn neu 7.5 y cant uwch ben ei setliad ar gyfer 2022/23, sydd wedi rhoi £6.5miliwn yn fwy i ni nag amcangyfrif yr adroddiad diwethaf. Bydd hyn yn ein helpu i ymdrin â phwysau anferth yn y gyllideb eleni, gan gynnwys, er enghraifft, cynnydd o bron £4m mewn costau ynni yn adeiladau’r cyngor gan gynnwys ysgolion.
“Rydym eisoes wedi cytuno na fydd y cynnydd yn nhreth y Cyngor yn fwy na 1.95%, fel rhan o gydnabyddiaeth bod heriau anferth y cynnydd mewn costau byw yn wynebu ein trigolion. Bydd hefyd yn caniatáu i adrannau gyflenwi ein haddewid yn y Cynllun Sirol i ganolbwyntio adnoddau ar wella lles trigolion trwy daclo anghydraddoldebau a mynd i’r afael â heriau amgylcheddol yn ein sir.”
Mae’r setliad hefyd yn amlinellu bod dyraniad cyfalaf heb gyfyngiad y cyngor yn £5.41miliwn ar gyfer 2023/24, sy’n gynnydd o £911,000 uwchben 2022/23.
Mae rhagolwg cyllideb refeniw diweddaraf ar gyfer y flwyddyn bresennol hefyd wedi gwella ers Tachwedd.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: “Roedd setliad dros dro'r cyngor gan Lywodraeth Cymru’n sylweddol uwch na’r rhagolygon gwreiddiol. Unwaith eto mae hyn yn dangos y flaenoriaeth mae Llywodraeth Cymru’n rhoi i lywodraeth leol a’r gwasanaethau y gallwn eu darparu. Tra bod pwysau chwyddiant yn parhau i gyflwyno her sylweddol, bydd y setliad yma’n ein galluogi ni i leddfu’r effeithiau gwaethaf ar wasanaethau a thrigolion.
“Mae argymhellion y gyllideb yn cynnwys defnydd un tro o arian wrth gefn i leddfu effaith costau ynni a chwyddiant y tu allan i gyflogau yn 2023/24. Gan fod gobaith y bydd y costau yma’n dychwelyd at lefelau is, ni fyddai’n deg gwneud toriadau niweidiol i wasanaethau oherwydd yr hyn a allai fod yn bwysau tymor byr. Mae’r ffordd yma ymlaen hefyd yn cael ei chefnogi gan raglen waith sydd â’r bwriad o leihau costau ehangach wrth i ni symud ymlaen.”
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Torfaen ac awdur yr adroddiad cyllideb, Nigel Aurelius: “Mae’r setliad dros dro sy’n well na’r disgwyl yn rhoi cyfle nawr i edrych yn ddyfnach am fesurau effeithlonrwydd mewn meysydd fel gwaith partneriaeth, rheolaeth cytundebau, comisiynu a chaffael ac am ffyrdd o leihau ein costau ynni.
"Gall yr arbedion yma leihau'r diffyg dros y blynyddoedd nesaf mewn ffordd bwyllog sy’n parhau i gefnogi trigolion a gwarchod gwasanaethau.”
Yn ystod Ionawr, caiff y gyllideb ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu Adnoddau, a all wneud argymhellion i’r Cabinet, cyn i argymhellion terfynol y gyllideb gael eu hystyried mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ar Chwefror 28.
I ddarllen yr adroddiad llawn ewch i Scrutiny Report Template (torfaen.gov.uk)