Gweithdai mathemateg a hwyl am ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Ionawr 2023
Stock_ChildNumbers (5)

Dysgwch sut i helpu’ch plant gyda mathemateg mewn cyfres o weithdai gyda Chyngor Torfaen a Techniquest.

Mae gweithdai Mawredd Mawr Mathemateg wedi eu bwriadu ar gyfer plant cyn-ysgol a disgyblion rhwng 10 a 12 oed a byddan nhw’n cynnwys gwersi mewn cyfrif a ffracsiynau, prynu a gwerthu ceir rasio Lego.

Mae’n rhan o raglen rhifedd wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU o’r enw Lluosi, sy’n ceisio helpu plant ac oedolion gyda mathemateg mewn bywyd pob dydd, fel helpu gyda gwaith cartref, rheoli cyllideb y cartref neu gael swydd.

Bydd gweithdai Mawredd Mawr Mathemateg yn digwydd ar:

  • Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023 yn y Pwerdy, Sain Derfel - 10:30am - 12:00pm a 1:00pm - 2:30pm
  • Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023 yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog - 10:30am - 12:00pm a 1:00pm - 2:30pm.

Bydd y gweithdai i blant 10 i 12 oed yn digwydd yn ystod hanner tymor:

  • Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023, CAG Pont-y-pŵl (Y Settlement) - 10:30am - 12:00pm a 1:00pm - 2:30pm

I gadw lle, cysylltwch â thîm Lluosi ar 01633 647822 neu drwy e-bost multiply@torafen.gov.uk

Cadwch lygad ar dudalen Facebook Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen am fanylion am gyrsiau a digwyddiadau Lluosi yn y dyfodol.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/01/2023 Nôl i’r Brig