Rhaglen rianta'n helpu tad newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Ionawr 2023
For Dads, By Dads

Mae dod yn rhiant yn amser cyffrous ond mae’n gallu bod yn frawychus, yn enwedig i unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl ac emosiynol.

Dyma oedd sefyllfa Andrew Hamar, o Bont-y-pŵl, pan ddaeth y dad i William sy’n chwe mis oed.

Roedd Andrew, 38, yn dioddef pryder ar ôl colli ei lys-dad a chael amser trawmatig gyda’i bartner wrth geisio cael babi.

Ond, diolch i ymwelydd iechyd y teulu, cafodd Andrew ei gyfeirio at raglen I Dadau Gan Dadau Cyngor Torfaen, sy’n cefnogi tadau newydd a’r rheiny sy’n disgwyl.

Mae gweithdai’r rhaglen 10 wythnos yn cynnig cymorth a chyngor ar bynciau fel iechyd a lles, gwybodaeth am fydwragedd ac ymwelwyr iechyd a phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Andrew: “Roedd y gweithdai’n ddymunol ac yn ysgogi’r meddwl.  Roedd deinameg y grŵp yn galluogi pawb i siarad yn agored ynglŷn â sut roedden nhw’n teimlo, sut maen nhw wedi cael eu heffeithio gan bethau a pha rwystrau posibl y gallan nhw fod yn wynebu wrth fod yn dad newydd.

“Roedd yn gwneud i mi deimlo barod i ddelio â’r da a’r drwg o fod yn dad newydd, a’r cyfan mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.”

Ers cwblhau’r rhaglen, mae Andrew a’i bartner wedi ymrwymo i ddatblygu ffordd iach o fyw iddyn nhw a’u mab.

Cofrestrodd Andrew hefyd ar gyfer cwrs Cylch Diogelwch y cyngor, sy’n ceisio datblygu perthnasau iach rhwng rheini a phlant.

Ychwanegodd Andrew: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Jacob a Gareth sy’n trefnu rhaglen I Dadau Gan Dadau am yr holl amser y maen nhw wedi rhoi i’n cefnogi ni i gyd

“Rwy’n teimlo’n barod ac yn hyderus ynglŷn â bod yn dad newydd, ac mae’r rhaglen wedi achosi i mi feddwl ychydig yn fwy am yr hyn yr wyf am wneud gyda fy mywyd.”

Bydd rhaglen nesaf I Dadau, Gan Dadau yn dechrau ar ddydd Iau, 9 Chwefror, 7pm yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl.

I gofrestru, gall tadau newydd a’r rheiny sy’n disgwyl, gwblhau’r ffurflen ar-lein

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ffoniwch 07980682256 neu e-bostiwch Jacob.guy@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 20/01/2023 Nôl i’r Brig