Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Ionawr 2023
Symud, ymddeol, ailbriodi neu am roi yn ôl i’r gymuned leol?
Mewn cyfres o flogiau fideo, mae gofalwyr maeth ledled Cymru wedi dod at ei gilydd i edrych ar y rhesymau, y profiadau bywyd a’r newidiadau arweiniodd at eu bod yn dod yn ofalwyr.
Mae’r blogiau wedi eu cynhyrchu fel rhan o ymgyrch ‘Pwrpas Newydd’ gan Faethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethu maethu nid er elw, yn cynnwys y22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru .
Bydd penodau’n cael eu rhyddhau pob wythnos ar wefan Maethu Cymru, trwy eu cyfryngau cymdeithasol a’u sianel YouTube, a byddan nhw’n cynnwys sgyrsiau onest ac agored rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir.
Mewn un bennod drawiadol, mae un o’r gofalwyr maeth, Cath, yn trafod ei thaith trwy’r broses o fabwysiadau ar ôl deall na allai ei gŵr a hi gael plant biolegol.
Ar ôl mabwysiadu, sylweddolon nhw fod ganddyn nhw fwy i’w roi o ran cariad a gofal ac felly penderfynon nhw wneud cais i fod yn ofalwyr maeth.
Wrth siarad â’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd, Mai Davies ar gyfer y gyfres o chwe phennod, dywedodd Cath ei bod yn ymwybodol bod gan rai pobl syniad eisoes o beth yw gofalwr maeth.
“Rwy’n credu mai syniad pobl o beth yw gofalwr maeth yw rhywbeth nad ydyn nhw'r un peth ag e,” dywedodd.
“Mae llawer o bobl yn dweud, ‘Buaswn i’n hoffi bod yn ofalwr maeth ond dydw i ddim yn siŵr’ ac rwy’n dweud wrthyn nhw bob tro i ffonio a holi, does neb yn mynd i guro ar eich drws a gofyn i chi fod yn ofalwr maeth.
“Mae rhai plant wedi cael profiadau erbyn 5 oed na fydd pobl yn eu cael trwy gydol eu bywydau, ac mae’n gofyn am empathi, dealltwriaeth ac agwedd anfarnol mewn gwirionedd.”
Dechreuodd Jennifer, o Sir Fflint, faethu pan oedd hi’n 66 oed ar ôl i’w gŵr farw. Dywedodd ei bod hi’n credu bod ei hoed yn gallu bod yn fantais o ran maethu.
“Ble rwy’n byw, mae’r plant ar y stryd yn chwarae gyda’r plant sy’n dod ataf i, ac maen nhw’n dweud, ‘ai dyna dy fam-gu?’ Ac, wrth gwrs, maen nhw’n dweud ie oherwydd bod hynny’n haws, yna does dim rhaid iddyn nhw ddweud mai gofalwr maeth ydw i, am fod hynny’n lletchwith,” dywedodd.
“Maen nhw’n gweld fi fel rhyw fath o fam-gu, ac rwy’n sbwylio nhw rhywfaint oherwydd dyna mae mam-gu’n gwneud.”
Siaradodd Jennifer yn gynnes hefyd am lefel y gefnogaeth sydd ar gael gan yr awdurdod lleol a’r gymuned gofal maeth:
“Dyw pobl ddim yn deall y lefel o gefnogaeth, nid dim ond gweithwyr cymdeithasol sy’n eich cefnogi, mae gofalwyr maeth eraill yn eich cefnogi oherwydd rydych chi’n gwneud ffrindiau yn y gymuned.
Bydd pobl eraill â phrofiadau gwahanol yn gallu rhoi cyngor i chi sut i weithio gyda phlant arbennig oherwydd eu bod nhw wedi cwrdd â phlant tebyg o’r blaen.”
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth cymeradwy gyda Chyngor Torfaen, ffoniwch 01495 766669 neu ewch i Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen