Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023
Heddiw, cymeradwyodd cynghorwyr Torfaen y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2023/24 a gosod treth y cyngor ar 1.95 y cant am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd yr adroddiad, a gafodd gefnogaeth unfrydol, yn amlinellu:
- cymorth i bron i ddeg mil o gartrefi drwy gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
- £4.3 miliwn neu 6.2% o gyllid ychwanegol i ysgolion yn ogystal â chymorth untro o £600,000
- £150,000 o gyllid ychwanegol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- cyllid i alluogi talu’r cyflog byw gwirioneddol o £10.90 yr awr i weithwyr gofal - cynnydd o 10%
- £500,000 ychwanegol yn ogystal â’r £1.3 miliwn ar gyfer Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i ddarparu gwasanaethau hamdden
- buddsoddiad ychwanegol mewn Gofal Cartref a gweithgareddau Byw â Chymorth
- cyllid i helpu i ailddatblygu Fferm Gymunedol Greenmeadow
- cyllid ychwanegol i gefnogi banciau bwyd Fare Share
- cyllid i barhau i ofalu am blant sy'n derbyn gofal
- parhau i ariannu bagiau cadi bwyd am ddim a chyllid untro ar gyfer cerbydau gwastraff ychwanegol
- parhau i ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau strydlun sef £2.8 miliwn, casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn £8.2 miliwn a £1.8 miliwn ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd.
Derbyniodd y Cyngor gynnydd o 7.56% y cant mewn cyllid, sy’n gyfystyr â £12 miliwn, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, yn sgil y grant gan Lywodraeth Cymru. Cyllideb ros y Cyngor ar gyfer 2023/24 yw £319.5 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol, Adnoddau yn Nhorfaen: Er gwaethaf y pwysau ar bob gwasanaeth cyhoeddus, mae'r setliad teg hwn gan Lywodraeth Cymru a'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddefnyddio’n hadnoddau yn ofalus, wedi ein galluogi i warchod gwasanaethau rhag toriadau. Gallwn hefyd ariannu cynnydd ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau cymorth a datblygiadau sy'n hanfodol bwysig i'n trigolion.”
“Rydym wedi cadw treth cyngor mor isel â phosibl ers dwy flynedd i gydnabod y cynnydd mewn costau byw, a rhoi sicrwydd ariannol i drigolion. Mae cynnydd o 1.95% yn nhreth y cyngor ymhlith yr isaf yn y DU, ac mae’n golygu cynnydd o tua 56p yr wythnos ar gyfartaledd i gartref ym mand D yn y fwrdeistref.
“O ystyried yr argyfwng costau byw, mae ein cyllideb yn darparu cymorth pellach i drigolion sy'n cael trafferth gyda'u treth y cyngor, ac mae yna arian ychwanegol ar gyfer cynllun Foodshare.
“Mae’r gyllideb yn golygu ein bod nawr yn gallu talu’r cyflog byw gwirioneddol o £10.90 yr awr i weithwyr gofal. Mae hyn yn gynnydd o 10 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac rydym yn buddsoddi mewn gwasanaethau gofal a gwasanaeth byw â chymorth, sy’n hanfodol.”
“Dros y flwyddyn nesaf rydym yn rhoi cynnydd o 6.2 y cant i gyllidebau ysgolion a £150,000 ychwanegol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydym hefyd yn lleihau'r hyn a anfonir i safleoedd tirlenwi drwy gynyddu'r eitemau a gasglwn wrth ymyl y ffordd a pharhau â'r cyflenwad o fagiau rhad ac am ddim ar gyfer y cadi gwastraff bwyd.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: “Mae'r incwm rydym yn ei dderbyn yn sgil treth y cyngor yn cyfrif am 16 y cant o gyfanswm ein cyllideb yn unig, ond rwy’n falch bod y cynnydd yn ein treth y cyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru.
“Yn union fel costau yn y cartref, mae'r gost i redeg y cyngor wedi saethu i fyny oherwydd chwyddiant, ond rydym yn rheoli pwysau ein cyllideb ein hunain, trwy droi at gronfeydd wrth gefn unwaith ac am byth, a thrwy beidio â thorri gwasanaethau na throsglwyddo’r gost i drigolion.”
I weld yr adroddiad ewch i wefan y cyngor