Hwyl Hanner Tymor Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Chwefror 2023
torfaen play

Mae dros 700 o blant wedi cymryd rhan mewn wythnos llawn hwyl a chwarae'r hanner tymor yma gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen.

Darparodd tua 100 o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr amrywiaeth o weithgareddau chwarae mewn nifer o fannau, a welodd plant yn cymryd rhan mewn celf a chrefft, gemau, chwaraeon, nofio, sioeau talent a mwy.

Dywedodd Natalie Noltey, y mae ei phlant Ella-Marie, Lylla-Grace ac Alfie wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth chwarae ers nifer o flynyddoedd, y byddai hi ar goll hebddo.

“Gydag un bach sydd angen cymorth ychwanegol, amser a gofal, mae yna sicrwydd o gael gwybod bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Chwarae Torfaen yn addasu i holl anghenion, hoffterau a galluoedd fy mhlant. Dydw i byth yn amau bod pob aelod o Chwarae Torfaen yn mynd yr ail filltir.

“Yn llawn hwyl a chwerthin, mae fy mhlant yn ffynnu yn y sesiynau, ac maen nhw ar dân i ddweud wrthyf i beth maen nhw wedi bod yn gwneud.  Mae’r ddwy hynaf wedi bod yn mynychu’r clwb ymwybyddiaeth ofalgar ac mae’n anhygoel faint maen nhw’n mwyhau ac wedi dysgu technegau newydd.”

Derbyniodd plant a fynychodd y gwersylloedd lles mewn ysgolion cynradd yn y fwrdeistref becyn cinio am ddim a byrbrydau trwy gydol y dydd, y pob dim yn cael ei ddarparu gan Arlwyo Torfaen.

Mae plant yn cael lle yn y gwersylloedd lles trwy eu hysgolion neu trwy fod rhieni’n mynegi diddordeb trwy sianelau cyfryngau cymdeithasol Chwarae Torfaen, y cwbl ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. 

Cyflenwyd sesiynau chwarae a seibiant arbenigol hefyd i dros 80 o blant ag anableddau.

Ychwanegodd Natalie: “Fel rhiant, y teimlad yr ydych chi ei eisiau fwyaf yw bod eich plant yn hapus ac yn cael gofal mewn awyrgylch diogel. Gyda Chwarae Torfaen, does byth amheuaeth gen i ac felly rydym ni’n diolch cymaint i chi am bopeth yr ydych yn ei wneud”.

Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen: “Mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel arall o chwarae ac mae’n wych bob tro gweld yr ymgysylltiad trwy ein prosiect gwirfoddoli ieuenctid.

“Trwy weithio’n agos â’n cyfeillion yn Arlwyo Torfaen, rydym wedi sicrhau bod y plant wedi cael eu bwydo a’u bod wedi cael cyfleoedd chwarae o ansawdd hyd a lled y fwrdeistref”.

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn recriwtio gwirfoddolwyr 16 oed a throsodd ar hyn o bryd, yn ogystal â gweithwyr chwarae, gweithwyr cymorth chwarae a goruchwylwyr safleoedd i helpu i redeg gwersylloedd dros yr haf a chynlluniau chwarae mynediad agored.

Rhoddir wythnos lawn o hyfforddiant o ddydd Llun, Gorffennaf 24 ymlaen, gyda chlybiau’n mynd o Ddydd Llun 31 Gorffennaf tan ddydd Iau 25 Awst.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 31 Mawrth. 

I wneud cais, ewch at wefan Cyngor Torfaen, neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch  andrea.sysum@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742322.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/02/2023 Nôl i’r Brig