Ateb yr Argyfwng Tai

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Chwefror 2023
Housing

Yr wythnos nesaf, bydd cynghorwyr ar y pwyllgor Cymunedau Iachach yn craffu ar y materion enbyd sy'n creu argyfwng tai cenedlaethol a lleol ac adolygu camau'r cyngor a phartneriaid i fynd i'r afael â'r canlyniadau.

Beth fyddai eich atebion neu eich heriau i'r argyfwng tai?

Rhai materion:

  • Mwy o alw na chyflenwad
  • Prisiau tai'n codi
  • Diffyg tai fforddiadwy o ansawdd da ac eiddo rhent cymdeithasol
  • Costau byw presennol a bwlch fforddiadwyedd cynyddol
  • Cynnydd mewn rhenti preifat a chynnydd mewn troi allan heb fai
  • Llai o landlordiaid preifat gan mai'r duedd bresennol yw gwerthu eiddo

Ebostiwch eich barn i scrutiny@torfaen.gov.uk 

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal dydd Iau nesaf, 2il o Fawrth am 10am a gellir ei wylio ar wasanaeth we-ddarlledu'r cyngor drwy glicio yma: Home - Torfaen County Borough Council Webcasting (public-i.tv)

 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/02/2023 Nôl i’r Brig