Cymorthfeydd i fynd i'r afael â chynnydd mewn cartrefi llaith

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Chwefror 2023

Mae cyfres o gymorthfeydd ar gyfer trigolion Torfaen wedi cael eu sefydlu yn ystod mis Mawrth i ddarparu ystod o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar broblem gynyddol llwydni a lleithder mewn cartrefi.

Mae'r cymorthfeydd amlasiantaethol wedi'u cynllunio i fod yn siopau un stop wyneb yn wyneb er mwyn osgoi rhag trosglwyddo pobl o un sefydliad i'r llall heb gael y cyngor maen nhw ei angen i helpu i fynd i'r afael â llwydni yn y cartref.

Bydd pob cymhorthfa yn cynnwys cynrychiolwyr o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y fwrdeistref, gan gynnwys Melin, Bron Afon a Pobl, cynghorwyr ariannol, cynghorwyr ynni, Cyngor ar Bopeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a thimau iechyd yr amgylchedd a thai Cyngor Torfaen.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai: “Rydw i wedi cael nifer cynyddol o bobl yn cysylltu â mi yn bryderus dros lwydni a lleithder yn eu cartrefi.  Gall llwydni effeithio ar bob math o gartref, ond mae wedi cael ei waethygu y gaeaf hwn gan gostau cynyddol ynni a chwyddiant ar nwyddau.

“Gan fod trigolion yn ei chael hi'n anodd fforddio cynhesu eu cartrefi, mae pobl yn naturiol yn amharod i adael gwres allan a gadael aer oer i mewn. Mae hyn yn creu'r amgylchedd perffaith ar gyfer lleithder a gall pob eiddo gael ei effeithio os na chaiff ei awyru'n iawn.”

Bydd y cymorthfeydd galw heibio ar agor o 2.30pm tan 6pm ac yn cael eu cynnal:

  • Ddydd Mawrth, 7fed o Fawrth yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon
  • Dydd Mercher, 8fed o Fawrth ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
  • Dydd Iau, 9fed o Fawrth yn Llyfrgell Cwmbrân

Ar y diwrnod, bydd pobl hefyd yn gallu cyrchu ystod o wasanaethau cymorth costau byw i helpu i liniaru rhai o'r problemau sy'n gallu codi gyda chartrefi nad ydynt yn cael eu gwresogi'n ddigonol.

Dywedodd Mal Edgson, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Torfaen: “Gyda phrisiau ynni ar eu huchaf erioed, nid yw gwresogi cartrefi yn fforddiadwy i lawer ac nid yw'n syndod bod lleithder a llwydni yn fwy o broblem ac mae hynny’n arwain yn aml at waethygu iechyd.

“Gall Cyngor ar Bopeth ac asiantaethau cynghori eraill eich helpu i hawlio'r budd-daliadau mae gennych chi hawl iddyn nhw, rheoli dyledion problemus mewn ffordd fwy fforddiadwy, gwirio a oes gennych chi hawl i gael help gyda chostau ynni a gwella inswleiddio ar gyfer eich cartref.”

I gael rhagor o wybodaeth am gostau byw cynyddol, ewch i www.torfaen.gov.uk/

Diwygiwyd Diwethaf: 23/02/2023 Nôl i’r Brig