Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15 Chwefror 2023
Mae grŵp sy’n cefnogi pobl ifanc yn y gymuned LHDTh+ yn Nhorfaen wedi cael £10,000 o arian loteri.
Mae grŵp Kings, Queens and Everything In-Between, sy’n cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Torfaen, yn cynnig lle diogel i bobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol a’u ffrindiau gwrdd a chael hwyl.
Sefydlwyd y grŵp yn Ashley House yng Nghwmbrân yn 2019 ac mae ganddo fwy nag 20 o aelodau bellach.
Bydd yr arian o’r Gronfa Loteri Gymunedol yn mynd tuag at weithgareddau a thaith i weld sioe Mamma Mia yn y West End yn Llundain.
Mae aelodau’r grŵp hefyd yn bwriadu cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd eto fis Awst.
I helpu i nodi Mis Hanes LHDTh+ y mis yma, dywedodd Riley: “Dechreuais i fynychu’r grŵp ychydig cyn Covid, roeddwn i mor falch eu bod nhw wedi parhau gyda sesiynau ar-lein i ni.
"Pan gawsom ni ddod yn ôl i’r clwb a chwrdd wyneb yn wyneb, roeddwn i’n teimlo mor gyfforddus gyda phawb, daethom ni at ein gilydd trwy fod yn rhan o’r gymuned LHDTh+ ond hefyd trwy brofiad y pandemig gyda’n gilydd.
"Mae’r grŵp wedi fy helpu i mi dderbyn y person ydw i a dydyn nhw byth wedi fy marnu am y ffordd rydw i’n ymddangos neu’n gwisgo.”
Ychwanegodd Ozzy: “Roedd Pride yn teimlo fel profiad unigryw, dylai pawb gael y cyfle i fynd a chael y profiad.
“Mae’r grŵp wedi fy helpu’n fawr iawn gyda fy hyder ac rwy’ wedi gwneud nifer llawer o ffrindiau. Rydw i’n gallu dechrau teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus gyda fi fy hun.”
Mae Kings, Queens and Everything-in-between yn cwrdd pob dydd Llun, rhwng 4:30pm a 7:30pm, ac mae aelodau’n cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel celf a chrefft, chwaraeon, coginio a gweithdai ar wahanol faterion.
Mae’r grŵp ar agor i unrhyw un rhwng 11-25 oed o’r gymuned LHDTh+ yn ogystal â’u cyfeillion syth.
David Williams, pennaeth Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen: “Mae’r bobl ifanc sy’n mynychu’r grŵp yn cael cyfleoedd i edrych ar eu hunaniaeth, diwylliant a diddordebau mewn man diogel ochr yn ochr â chymheiriaid a gweithwyr ieuenctid cefnogol.
“Mae nifer o’r cyfleoedd mae’r bobl ifanc yn eu cynllunio a’u trefnu yn rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau a fyddai fel arall wedi bod y tu hwnt i’w gafael oherwydd rhwystrau fel arian a gwahaniaethu.
“Fel gwasanaeth, rydym yn dathlu pobl ifanc ac yn ystyried mai braint i ni yw cael sefyll ochr yn ochr â nhw wrth iddyn nhw ddatblygu’n unigolion sy’n gallu bod yn falch ohonyn nhw eu hunain ac yn hyderus yn y bobl y maen nhw’n datblygu i fod.”
Am fwy o fanylion am Kings, Queens and Everything-in-Between, ewch i Instagram @torfaenyouth, Facebook @IeuenctidTorfaen neu danfonwch e-bost at: Martin.libby@torfaen.gov.uk