Gwlyptir newydd i fadfallod a llyffantod

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 2 Chwefror 2023

Mae gwlyptir newydd wedi ei greu wrth ymyl Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd y Garn fel rhan o brosiect i ddiogelu amffibiaid ac ymlusgiaid.  

Ffurfiwyd y gyfres o lynnoedd ychydig cyn y Nadolig a’r gobaith yw y byddan nhw’n dod yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys madfallod a llyffantod, pysgod, mamaliaid, gan gynnwys dyfrgwn, adar a phryfed fel gwas y neidr. 

Mae’n dod wrth i Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd ar ddydd Iau Chwefror 2 ddathlu a hyrwyddo adfer gwlyptiroedd ledled y byd. 

Crëwyd yr ardal newydd diolch i brosiect Cysylltu’r Dreigiau Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth fod poblogaethau amffibiaid ac ymlusgiaid yn crebachu ac yn dameidiog.

Dywedodd swyddog y prosiect, Peter Hill: "Roedd grŵp Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid wrth ein bodd o weithio gyda Chyngor Torfaen i gynyddu’r cynefin bridio i amffibiaid yn Llynnoedd y Garn. 

"Mae clystyrau o lynnoedd yn llawer mwy buddiol na llynnoedd unigol, gan alluogi i boblogaethau amffibiaid fod yn fwy gwydn, yn enwedig Madfallod Cribog, yn wyneb bygythiadau a phwysau cyfoes."

Mae llyffantod a Madfallod Cribog wedi eu rhestru yn Neddf Amgylchedd (Cymru) 2016 fel rhywogaethau o bwysigrwydd pennaf yng Nghymru.

Mae Madfallod Cribog yn cael eu gwarchod o dan y gyfraith sy’n golygu bod eu wyau, eu mannau bridio a’u mannau gorffwys yn warchodedig. 

Unwaith bydd y llynnoedd newydd wedi eu sefydlu, byddan nhw’n dod yn rhan bwysig o dirwedd gwlyptiroedd Blaenafon.

Yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth anifeiliaid a phlanhigion, gall gwlyptiroedd iach helpu i warchod cymunedau rhag llifogydd trwy ddal yn ôl ac arafu llif y dŵr trwy’r dirwedd.  

Maen nhw hefyd yn storio allyriadau carbon felly maen nhw’n hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. I wybod mwy ynglŷn â sut mae Cyngor Torfaen yn bwriadu lleihau allyriadau carbon, cliciwch yma i ddarllen ein Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur

Diwygiwyd Diwethaf: 02/02/2023 Nôl i’r Brig