Ailwampio gwasanaeth boreol yn helpu i wella presenoldeb

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Rhagfyr 2023
BHVCPrimary pupils

Mae ysgol gynradd yn Nhorfaen wedi gweld hwb iach i’w chyfraddau presenoldeb ers cyflwyno dull newydd i wasanaeth fore Gwener.

Mae’r gwasanaeth boreol a ailwampiwyd yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon erbyn hyn yn cynnwys bwrdd arweinwyr digidol sy’n dangos presenoldeb y dosbarthiadau oedd â’r cyfraddau presenoldeb uchaf yn ystod yr wythnos flaenorol.

Mae wedi tanio rhywfaint o gystadlu cyfeillgar ymhlith dosbarthiadau, gyda'r dosbarth iau sy'n perfformio orau yn derbyn tlws, a'r dosbarth babanod buddugol yn derbyn tedi bêr.

Cyflwynodd yr ysgol hefyd system wobrwyo sy’n galluogi’r disgyblion i ennill un pwynt am bob wythnos lawn y maent yn mynd i'r ysgol. Yna caiff y pwyntiau a gronnwyd eu cyfnewid am wobrau yn siop wobrau'r ysgol.

Mae wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg y plant, gyda rhai yn cyfnewid eu pwyntiau am amrywiaeth o wobrau, yn cynnwys profiad dawns stryd, sesiwn hyfforddiant rygbi, pecynnau deunydd ysgrifennu a sticeri.

Ers cyflwyno'r fformat newydd, mae'r ysgol wedi gweld gwelliant o flwyddyn i flwyddyn mewn cyfraddau presenoldeb, gan fynd o 87.56% yn 21-22 i 89.49% yn 22-23 a 92.58% ar hyn o bryd.

Mae hyn hefyd wedi meithrin amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol a brwdfrydig.

Meddai Anna Britten, Pennaeth: “Fel ysgol gwelsom gynnydd mewn absenoldebau heb eu cynllunio ers dychwelyd ar ôl y pandemig, felly roeddem am greu amgylchedd sy'n annog disgyblion i werthfawrogi eu haddysg a blaenoriaethu eu presenoldeb, gan sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i annog i gyrraedd ei botensial llawn”.

“Rydym wrth ein bodd i weld effaith gadarnhaol fformat newydd ein gwasanaeth boreol ar ddydd Gwener. Trwy dynnu sylw at bresenoldeb a chyflwyno system sy'n seiliedig ar wobrau, rydym wedi creu amgylchedd difyr ac ysgogol sy'n annog y plant i ddod i'r ysgol yn rheolaidd.”

Yn ogystal, mae gan yr ysgol ystod o ymyriadau ar waith i gefnogi lles disgyblion a allai fod yn cael trafferth mynychu’r ysgol oherwydd heriau personol neu gymdeithasol. Maent yn cynnwys cwnsela, mentora a rhaglenni cymorth i deuluoedd.

Mae disgyblion hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol fel helpu i fynd i'r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon yn eu hardal leol.

Yn ddiweddar, fe aethant ati i gefnogi Oliver James, swyddog Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Cyngor Torfaen, i ddangos y difrod y mae sbwriel yn ei wneud i’r amgylchedd, drwy greu eu posteri atal sbwriel eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, “Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon wedi cyflawni canlyniadau rhyfeddol o ran hybu cyfraddau presenoldeb drwy ddefnyddio technoleg ddigidol a mentrau creadigol. Rwy'n cymeradwyo'r pennaeth, y staff a'r disgyblion am eu perfformiad a'u hymrwymiad rhagorol. 

"Mae ymgyrch y Cyngor #DdimMewnColliMas yn cefnogi’r weledigaeth hon drwy ddangos y gweithgareddau difyr ac amrywiol sydd gan yr ysgol i’w cynnig, yn ogystal â manteision presenoldeb rheolaidd.”

Diwygiwyd Diwethaf: 22/12/2023 Nôl i’r Brig