Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023
Mae dosbarth ysgol gynradd wedi gweld gwelliant ym mhresenoldeb disgyblion ers iddynt ddechrau ymweld â’u llyfrgell leol i gael sesiynau darllen.
Er mis Medi, mae disgyblion Blwyddyn 3, Ysgol Gynradd Greenmeadow wedi bod yn dal y bws i Lyfrgell Cwmbrân i fenthyg llyfrau, rhannu storïau a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Yr athrawes Beth Newton gafodd y syniad i gynnal yr ymweliadau, meddai: “Drwy ymgorffori ymweliadau rheolaidd â’r llyfrgell yn ein cwricwlwm, rydym yn creu amgylchedd ysgogol sy’n annog plant i archwilio’r byd drwy’r gair ysgrifenedig.
“Rydym eisoes wedi gweld cydberthynas gadarnhaol rhwng ymweliadau â’r llyfrgell a chynnydd academaidd ein disgyblion. Mae eu sgiliau darllen a deall wedi gwella'n sylweddol, ac maent yn fwy effro yn yr ystafell ddosbarth.”
Mae staff y llyfrgell bob amser wrth law i helpu disgyblion i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch y llyfrgell a dewis llyfrau sy'n addas i'w diddordebau a'u galluoedd darllen. Roedd disgyblion yn awyddus i roi eu hadborth:
Meddai Gemma: "Rwy’n hoffi’r llyfrgell oherwydd rydyn ni’n cael darllen ac fe gawson ni wneud ein nodau llyfrau ein hunain, ac mae am ddim."
Meddai Sophia: "Mae’n llawer o hwyl cael mynd â’n llyfrau nôl a’u darllen nhw yn yr ysgol."
Meddai Talon: "Rwy’n hoffi gallu dewis llyfr ac yna dod â’r llyfr yn ôl i’r ysgol i’w ddarllen. Mae’n gyffrous pan fyddwch chi’n gallu rhannu llyfr gyda ffrind ".
Mae'r teithiau wedi helpu i wella presenoldeb dosbarth o dri phwynt canran o 92% i 95% o gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Meddai'r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae'n amlwg bod y plant yn mwynhau eu teithiau bws rheolaidd i'r llyfrgell!
“Un enghraifft yn unig yw hon o rai o'r mentrau gwych y mae ein hysgolion yn eu trefnu i gyfoethogi profiadau dysgu eu plant a sicrhau eu bod am fynd i'r ysgol bob dydd.”
Nod ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen yw tynnu sylw at y gweithgareddau difyr ac amrywiol sy'n digwydd yn yr ysgol, yn ogystal â'r mentrau sy’n anelu at annog plant i fynychu'r ysgol yn rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth am bresenoldeb ysgol, ewch i wefan Cyngor Torfaen.