Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023
Sefydlwyd y Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd gan Gyngor Torfaen yn 2021 fel cymorth i gynllunio i’r Fwrdeistref ddod yn ddi-garbon net erbyn 2050. Ers hynny, mae’r grŵp wedi ffurfio grŵp gweithredu i drigolion ac maen nhw’n chwilio am aelodau newydd.
Grŵp gwirfoddol a arweinir gan y gymuned yw Climate Action Torfaen ac mae’n ceisio adeiladu pontydd er mwyn hwyluso gweithredu cymunedol sy’n ein symud yn agosach at Dorfaen sy’n fwy cyfeillgar i’r hinsawdd a natur.
Grŵp cymunedol â chyfansoddiad yw Climate Action Torfaen, ac fe’i sefydlwyd ym mis Ebrill eleni. Ar hyn o bryd mae gennym 16 aelod actif ac rydyn ni’n awyddus bob tro i groesawu aelodau newydd, er mwyn tyfu ein cymuned angerddol, ddifyr a brwdfrydig.
Ein cyrhaeddiad pennaf hyd yn hyn yw creu man ar gyfer unigolion sy’n meddwl yn yr un ffordd, er mwyn iddyn nhw ddod at ei gilydd bob mis i sgwrsio am bopeth yn ymwneud â chynaliadwyedd yn Nhorfaen. Mae hefyd yn gyfle i ni gydweithio i ddod o hyd i atebion i’r materion sydd wir yn bwysig i ni.
Rydyn ni hefyd yn dod i gytundeb am amrywiaeth o faterion sy’n bwysig i ni ac yn cyflwyno hyn mewn cyfarfodydd Llysgenhadon Hinsawdd lle’r ydyn ni’n dod i gyswllt â Chyngor Torfaen. Y nod yw gwella’r ffordd y mae’r awdurdod lleol yn mynd ati i gyflawni ei ymrwymiadau o ran newid hinsawdd, a hynny mewn ffordd ystyrlon.
Rydym yn treulio awr o’n cyfarfodydd misol er mwyn gwneud gwaith da ac mae rhai o’n cyraeddiadau’n cynnwys:
- Dylanwadu’n bositif ar Gyngor Torfaen i gynnig compost yn y Ganolfan Ailgylchu, yn Y Dafarn Newydd.
- Cefnogi Fferm Cold Barn trwy glirio a thwtio’r ardd gymunedol.
- Cefnogi gardd gymunedol Clwb Rygbi Ger-yr-efail trwy glirio chwyn.
- Cynnal gweithdy eplesu rhad ac am ddim.
- Pobi pwdinau Nadolig ar gyfer cinio Dydd Nadolig Tasty Not Wasty.
- Cynnal stondin wib tu allan i Zero Waste Torfaen i gynnig cyngor am dyfu bwyd ac arbed hadau.
Mae ein gwaith diweddar yn cynnwys datblygu Map Trywydd ar gyfer y grŵp ac mae’n canolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yn lleol trwy fyd bendigedig bwyd.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am nawdd a chyfleoedd i rwydweithio, er mwyn cefnogi’r uchelgais yr ydyn ni’n ei rannu. Os oes diddordeb gennych yn ein gwaith a/neu hoffech chi gymryd rhan, yna byddai’n wych clywed gennych!
Gallwch gysylltu trwy anfon neges e-bost: hello@climateactiontorfaen.cymru, chwilio am Climate Action Torfaen ar Facebook neu @ClimateActionTorfaen ar Instagram.
Rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd #WythnosHinsawddCymru