Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Rhagfyr 2023
Mae safle hen bwll glo yn Abersychan ar y trywydd iawn i ddod yn wythfed Warchodfa Natur Leol Torfaen, a’r mwyaf o’u plith.
Caeodd Glofa Blaenserchan yn 1985, ac ers hynny mae gweddillion tomenni sborion glo wedi cael eu trawsnewid yn eangderau o laswelltir a rhostiroedd.
Cofnodwyd nifer o rywogaethau nodedig o blanhigion ar y safle, gan gynnwys Tegeirian y Wenynen, Tegeirian Bera, Tegeirian y Waun, Y Corwlyddyn Cnotiog, Y Feillionen Arw, Yr Edafeddog Fach a’r Lloer Redyn. Mae hefyd yn gartref i 30 math gwahanol o bili-pala.
Mae’r broses o ddynodi’r safle 86-hectar yn Warchodfa Natur Leol ar y gweill a dylai fod wedi ei chwblhau erbyn Gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Fe fydd yn golygu bod yr ardal, sy’n cynnwys cofeb i 176 o ddynion a bechgyn a laddwyd yn nhrychineb pwll glo Llannerch yn 1890, yn fan gwyrdd gwarchodedig sy’n cynnig cyfleoedd lleol ar gyfer addysg, ymgysylltiad â’r gymuned a gwirfoddoli.
Fe fydd hefyd yn gymorth i oresgyn newid hinsawdd trwy warchod a gwella bioamrywiaeth, gan gynnwys planhigion a choed, sy’n tynnu carbon o’r atmosffer ac yn ei gloi i ffwrdd.
Mae llystyfiant hefyd yn gymorth i leihau’r perygl o lifogydd – un o effeithiau newid hinsawdd – trwy amsugno dŵr a’i wasgaru.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: “Mae’n Wythnos Hinsawdd Cymru ac felly mae’n gyfle gwych i edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel Bwrdeistref i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
"Mae creu’r Warchodfa Natur Leol hon yn un o nifer o ffyrdd sydd ar waith gennym i roi sylw i’r argyfwng natur a hinsawdd er budd ein cymunedau, nawr ac yn y dyfodol."
Ar hyn o bryd mae yna saith Gwarchodfa Natur Leol yn Nhorfaen yn Llynnoedd Garn, sef yr un fwyaf ar hyn o bryd sy’n ymestyn dros bron i 53 hectar, Coridor Cwmafon (y llwybr beicio sy’n cysylltu Garndiffaith a Blaenafon), Tirpentwys, Chwarel Cwmynyscoi, Pyllau Springvale, Henllys a Llwyncelyn.
Darllenwch am y modd y mae Cyngor Torfaen yn rhoi sylw i’r argyfwng hinsawdd a natur.